Bydd Hybiau Cymunedol Cyngor °¬²æAƬ sy’n cynnig mynediad i wasanaethau’r Cyngor mewn cymunedau lleol yn ymestyn eu dyddiau gweithredu a gwasanaethau o ddydd Llun 27 Medi 2021.
Mae’r hybiau mewn lleoliad canolog mewn llyfrgelloedd canolog a gaiff eu rheoli gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin ac maent yn rhoi cyngor a gwybodaeth ar amrywiaeth o wasanaethau’r Cyngor. Agorodd yr hybiau am 1 diwrnod yr wythnos ym mhob cymuned ar 21 Mehefin ac maent wedi croesawu llawer o gwsmeriaid a helpu gydag ystod eang o ymholiadau.
Cynlluniwyd yr hybiau i helpu pobl sydd angen cael mynediad i gymorth wyneb-i-wyneb ar gyfer gwasanaethau’r cyngor.
Mae preswylwyr sy’n ymweld â’r hybiau yn croesawu’r gwasanaeth newydd yn arbennig os na fedrant wasanaethu eu hunain am amrywiaeth o resymau neu fod rhwystrau yn cynnwys materion llythrennedd, diffyg gwybodaeth ddigidol, gwahaniaethau iaith neu anabledd corfforol neu feddyliol.
Rydym eisoes wedi helpu preswylwyr i drefnu amser i ymweld â chanolfannau gwastraff cartrefi, gwneud cais am fathodynnau glas a helpu gydag ymholiadau am fudd-daliadau a thai.
Cynlluniwyd yr hybiau i ateb y galw gan breswylwyr ac maent yn rhan o adolygiad ehangach y Cyngor o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid wrth iddo geisio gwella ei gynnig hunan-wasanaeth a digidol ar gyfer y rhai a all gael mynediad i gwasanaethau yn y ffordd hon.
Fel rhan o’r ymateb i bandemig Covid-19, cafodd y cyfleusterau gwasanaeth cwsmeriaid a arferai fod ar gael yn y Ganolfan Ddinesig eu hatal yn gynnar yn 2020. Drwy ein rhwydwaith hybiau gallwn yn awr gynnig mwy o ddewis a mynediad rhwyddach i wasanaethau ar gyfer preswylwyr yng nghalon eu cymunedau.
Lleoliad | Oriau Agor | Diwrnodau |
---|---|---|
Llyfrgell Abertyleri | 9am – 5pm Ar gau 1pm – 2pm | Dyddiau Mawrth, Mercher, Iau a Gwener |
Llyfrgell Brynmawr | 9am – 5pm Ar gau 1pm – 2pm | Dyddiau Llun, Mawrth, Iau a Gwener |
Llyfrgell Glynebwy | 9am – 5pm Ar gau 1pm – 2pm | Dyddiau Llun, Mawrth, Iau a Gwener |
Llyfrgell Tredegar | 9am – 5pm Ar gau 1pm – 2pm | Dyddiau Llun, Mawrth, Mercher a Gwener |
Llyfrgell Blaenau | 10am – 5pm Ar gau 1pm – 2pm | Dyddiau Llun |
Llyfrgell Cwm | 10am – 5pm Ar gau 1pm – 2pm | Dyddiau Iau |
Sefydliad Llanhiledd | 10am – 5pm Ar gau 1pm – 2pm | Dyddiau Mercher |