Mae Byd Cyfartal yn Fyd a Alluogwyd.
“Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn ddiwrnod byd-eang yn dathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a llwyddiannau gwleidyddol menywod. Mae’r diwrnod hefyd yn nodi galwad i weithredu ar gyfer symud tuag at gydraddoldeb o ran y rhywiau” – gwefan Diwrnod Rhyngwladol Menywod
Cynhaliodd ICC Blaenau eu dathliadau eu hunain yn y dderbynfa a’r ystafell Seren Fôr gyda byrddau gwybodaeth am ysbrydoli merched ifanc, menywod a chymeriadau sydd wedi ymdrechu am newid a chydraddoldeb, ddoe a heddiw. Hoffem ddiolch i bawb a ddaeth i gefnogi ymgyrch ‘Byd Cyfartal yn Fyd a Alluogwyd’ a chael eu llun wedi’i dynnu gydag un o’n byrddau hunlun.
Gwahoddwyd yr holl staff, yn ddynion a menywod, i fynychu awr goffi ddydd Sul rhwng 12.45pm – 2pm yn yr ystafell hyfforddiant lle mwynhawyd teisennau a ffrwythau ac amser i sgwrsio a dathlu’r holl fenywod cryf a dynion blaengar o fewn ein cymdeithas a gweithleoedd.
Cynhaliwyd sesiwn Pilates hefyd oedd yn galluogi staff i gymryd ychydig o amser mas o’u bywydau prysur. Gall fod yn rhwydd rhuthro drwy fywyd heb aros i sylwi ar y byd o’n hamgylch. Mae hefyd yn rhwydd colli cysylltiad gyda’r ffordd y mae ein cyrff yn teimlo ac i bennu lan yn byw ‘yn ein pennau’. Gall fod yn ffordd i adlewyrchu ar ein taith llesiant ein hunain drwy roi mwy o sylw i’r presennol – i’n syniadau a theimladau ein hunain, ac i’r byd o’n cwmpas a all wella ein llesiant meddwl.
Unwaith eto, hoffem ddiolch yn fawr i chi am gefnogi ICC Blaenau a rhannu eich cefnogaeth ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Menywod.