Sefydlwyd rhaglen arloesol i greu busnesau bach ym Mlaenau Gwent 15 mlynedd yn Ă´l - ac mae'r manteision hirdymor yn awr yn dod i ffrwyth.
Lansiwyd Kickstart yn 2001 gan UK Steel Enterprise, sy'n is-gwmni i Tata Steel, a Chyngor Bwrdeisdref Sirol °¬˛ćAƬ. Y nod oedd annog pobl gyda syniadau busnes i'w rhoi ar waith drwy gynnig grantiau a benthyciadau ar lefel leol.
Cafodd ystod enfawr o fusnesau eu creu ar draws y fwrdeisdref sirol o rai bob dydd i rai soffistigedig a thechnegol iawn.
Dywedodd y Cyng Jim McIlwee, Dirprwy Arweinydd Cyngor °¬˛ćAƬ: "Bu cynllun Kicki Start yn gynllun hirsefydlog i gefnogi busnesau newydd a phresennol o fewn yr ardal. Mae'r cynllun a gefnogwyd gan Gyngor °¬˛ćAƬ wedi gweld nifer o fusnesau'n cael y grant ac felly wedi tyfu dros y blynyddoedd.
"Yn ogystal â'r cynllun hwn, mae'r Cyngor yn cynnig ystod eang o wasanaethau i gefnogi busnesau newydd a phresennol drwy Uned Datblygu Economaidd y Cyngor megis cyngor ar fusnesau a rheoli unedau eiddo. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.blaenau-gwent.gov.uk”&˛Ô˛ú˛ő±č;&˛Ô˛ú˛ő±č;&˛Ô˛ú˛ő±č;&˛Ô˛ú˛ő±č;&˛Ô˛ú˛ő±č;
Cafodd Kickstart Plus ei lansio mewn blynyddoedd diweddar hefyd, sy'n rhoi help parhaus i'r mentrau a sefydlwyd dan y cynllun gwreiddiol.
Mae SteriTouch o Abertyleri yn un stori o lwyddiant rhagorol o raglen Kickstart. Mae'r cwmni wedi datblygu cynnyrch glanweithdra uwch-dechnegol yn seiliedig ar arian a ddefnyddir fel ychwanegyn wrth ei gynhyrchu ac mae ganddynt safle ymchwil a datblygu a chynhyrchu ym Mharc Busnes Roseheyworth ac mae'n allforio ei gynnyrch yn fyd-eang.
Lansiodd y busnes yn 2003 pan welodd y peiriannydd Huw Durban raglen ddogfen ar ddiffyg glanweithdra ac arferion glanhau gwael mewn ysbytai. Datblygodd ychwanegyn ar gyfer menig rwber oedd yn lladd bacteria.
"Profodd ychwanegu'r deunydd at y cynnyrch yn hytrach na rhoi haen ddiogelu arno yn syniad gwych," meddai Huw. Lansiodd ef a Nick Corlett y busnes yng Nghanolfan Arloesedd UK Steel Enterprise yng Nglynebwy ac mae cynnyrch SteriTouch bellach i'w cael mewn paent, cwpanau babanod a llu o ddefnyddiau eraill.
Derbyniodd y cwmni grant Kickstart o ÂŁ2000 a dywed Huw fod hynny'n hollbwysig wrth sefydlu'r busnes.
Mae SRS Valeting yn seiliedig yn Nhredegar ac mae wedi creu 19 o swyddi. Mae'r cwmni'n cydweithio gyda gwerthwyr ceir eraill yn gweithio ar eu safleoedd yn ogystal ag yn eu safle eu hunain, ac mae'n dymuno ehangu ei weithgareddau.
Derbyniodd SRS grant o ÂŁ2134 yn 2011 a dywed y perchennog Sean Seaward y bu hynny'n hollbwysig i alluogi'r sefydliad i gychwyn arni. "Fe wnaethom ei ddefnyddio i brynu hanfodion y busnes - glanhawyr sugno, golchwyr jet a pholisĂŻau. Roedd y grant yn ddefnyddiol iawn a bu o help mawr i ni.
"Fe wnaethom ddechrau'n fach ac rydym yn tyfu'n awr ac eisiau tyfu mwy."
Dywedodd Glyn Thomas, Rheolwr Cymru UK Steel Enterprise: "Mae cyllid sbarduno o'r math hwn yn hollol hanfodol i'r economi. Hebddo, efallai na fyddai busnesau gyda'r gallu i dyfu a chreu swyddi byth wedi cael eu darganfod a byddid wedi colli eu potensial."
Ac nid dim ond y cymorth ariannol ei hunan oedd yn allweddol i lwyddiant y cynllun. "Yn aml mor bwysig â'r arian y gwnaethant ei dderbyn yw'r bleidlais o hyder yn y syniad busnes a'r teimlad fod y gefnogaeth ganddyn nhw," ychwanegodd.
Mae'r rhestr o fusnesau a gafodd help drwy gynllun Kickstart i ddechrau arni yn hir ac amrywiol a chaiff y rhan fwyaf o fathau o fusnesau eu hystyried cyn belled â'u bod yn cyflawni meini prawf y cynllun. Nid oes fawr iawn o ffurflenni a gwiath papur ffurfiol ac mae'r broses mor syml ag y bu modd i ni ei gwneud."
Un o'r busnesau cyntaf a lansiwyd oedd yr hyfforddwr tenis Chris Hill, un o brif gyn-chwaraewyr Cymru a ffigur amlwg yn y gĂŞm. Agorodd The Warehouse ym Mrynmawr, LMC Tiles yn Nhredegar a The Olde Sweet Shoppe yn Abertyleri eu drysau. Ers dechrau cynllun Kick Start yn 2001, mae wedi cefnogi 185 o fusnesau newydd a chreu 262 o swyddi ym Mlaenau Gwent.
Mae Uned Datblygu Economaidd Busnes °¬˛ćAƬ yn rhoi cymorth a chefnogaeth mewn nifer o feysydd ac mewn un lleoliad i fusnesau newydd a hefyd fusnesau presennol.
Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys cefnogaeth menter drwy gynllun BG EFFECT, cymorth grant busnes drwy Kickstart, cefnogaeth sgiliau cyflogaeth ar gyfer cyflogwyr a chyflogeion a rheolaeth eiddo/uned.
I gael mwy o wybodaeth am y gefnogaeth neu i holi am y gwasanaethau cymorth busnes sydd ar gael ewch i www.blaenau-gwent.gov.uk neu ffonio 01495 355700 neu e-bost business.services@blaenau-gwent.gov.uk