Mae Kier, darparydd blaenllaw o wasanaethau adeiladu a seilwaith, wedi dechrau gwaith ar gynllun hybrid £7m fydd yn darparu gofod swyddfa a gweithdy yng Nglynebwy. Mae’r datblygiad wedi’i leoli ar ddau safle, gyda chwarter milltir rhyngddynt, ar Lôn y Felin.
Mae Kier yn cyflenwi’r cynllun ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ a phan fydd yn barod bydd yn cynnig 2,350 metr sgwâr o ofod llawr cyflogaeth. Disgwylir y bydd hynny’n creu dros 100 o gyfleoedd cyflogaeth yn yr ardal leol.
Bydd tri adeilad ffrâm ddur, a elwir yn unedau hybrid, ar y safle cyntaf a byddant yn darparu ar gyfer cyfanswm o naw busnes. Mae dau o’r adeiladau yr un fath yn union o ran dyluniad gyda’r trydydd yn llai. Bydd pob adeilad yn rhannu lobi mynediad a gofodau atodol a bydd pob un o’r unedau diwydiannol ysgafn yn cynnwys gofod swyddfa fach yn ogystal ag ardal warws. Cynlluniwyd yr unedau hybrid i roi costau ynni isel i’r defnyddwyr, gyda’r swyddfeydd â dulliau rheoli solar yn ogystal ag awyriant naturiol.
Fel rhan o’r datblygiad newydd hwn, bydd Kier yn creu mynediad i gerbydau i ffordd gyfagos Rhodfa Calch, ac yn adeiladu maes parcio newydd gyda lle i 40 cerbyd yn ogystal â nifer o fannau gwefru trydan a storfa feiciau.
Unedau blwch, sef cynwysyddion llongau wedi’u trawsnewid, fydd ar yr ail safle. Bydd ganddynt ddau lawr gyda lle ar gyfer 21 swyddfa ynghyd â chyfleusterau cymunol.
Disgwylir gorffen y gwaith erbyn diwedd y flwyddyn.
Dywedodd Jason Taylor, cyfarwyddwr gweithrediadau Kier Regional Building Wales: “Rydym yn falch i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ i gyflenwi’r cynllun hybrid hwn fydd yn rhoi gofod gweithio hyblyg i fusnesau lleol yng Nglynebwy. Ynghyd â’r gofod swyddfa newydd, rydym hefyd yn darparu seilwaith newydd yn cynnwys mynedfa newydd i gerbydau ar Rhodfa Calch.â€
Dywedodd y Cyng Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio, Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ: “Rydym yn falch iawn i weld y diwydiant adeiladu yn dechrau adfer ar ôl COVID-19 yma am Mlaenau Gwent ac mae’n gyffrous y bydd unedau newydd ar gael i’w rhentu yn ddiweddarach eleni. Rydym yn cefnogi Kier i weithio’n ddiogel ar y safle i ddarparu’r cynllun hwn yn unol â pholisïau Llywodraeth Cymru.â€