°¬˛ćAƬ

Mae cwmni arbenigol sy’n cynhyrchu pibellau diwydiannol yn cynllunio i ehangu ar ôl lansiad llwyddiannus.

Sefydlwyd Powerhose Technical o Abertyleri gan Dave Morgan eleni, ac maen nhw’n awr â’u golwg ar symud i ganolfan  fwy wrth i’r busnes gynyddu.

“Rydym wedi gweld trosiant chwe ffigwr yn gynt nag a ragwelwyd yn y Cynllun Busnes, ac mae hyn yn galonogol iawn,” meddai.

 Mae’n awr yn cynllunio i gael lle ychwanegol a buddsoddi mewn peiriannau i gynyddu cynhyrchiant, gan ehangu’r ystod o gynhyrchion y gall y cwmni eu cynhyrchu, a hefyd yn ceisio am gydnabyddiaeth ISO 9001. O fewn tair blynedd, nod Mr Morgan yw cyflogi pump o bobl wrth i’r cwmni ddatblygu.

Mae Powerhose Technical yn gwneud cynhyrchion ar gyfer ystod eang o gleientiaid yn y diwydiant fferyllol, y sector lled-ddargludyddion, bwyd a defnyddiau diwydiannol eraill, gan gyflenwi  cwsmeriaid ledled Prydain. Gydag 16 mlynedd o brofiad yn y diwydiant fel peiriannydd a rheolwr, mae’n dweud ei fod yn teimlo angerdd dros ochr dechnegol y diwydiant. 

Mae cynhyrchion y cwmni wedi eu dylunio a’u hadeiladu i’r safonau technegol uchaf. “Rhaid i’n cynhyrchion fodloni manylebau heriol, ac felly dim ond defnyddiau o’r ansawdd uchaf a’r dulliau gorau o brofi ansawdd ydyn ni’n eu defnyddio,” meddai Mr Morgan.

Tra bod Dave yn gyfrifol am y gweithgynhyrchu ac ochr dechnegol y busnes, mae’r gefnogaeth weinyddol yn dod gan ei wraig Laura.

Derbyniodd y busnes grant Kickstart o ÂŁ1000,a ddarparwyd ar y cyd gan UKSE, is-gwmni i Tata Steel, a Chyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ.

Defnyddiwyd y cyllid i brynu offer ar gyfer y busnes. “Roedd hyn yn help mawr ac rwy’n ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom i roi’r busnes ar ei draed,” meddai.

Dywedodd Glyn Thomas, Rheolwr UKSE yng Nghymru: “Rydym wrth ein bod yn cefnogi  Powerhose Technical, ac yn falch o weld eu bod nhw’n gweithio ar lefel uchel o arbenigedd technegol. Wrth i’r busnes dyfu a chyflogi staff, bydd yn ychwanegu at lefel sgiliau yn yr ardal. Dymunwn bob llwyddiant i’r cwmni.”

Dywedodd Llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ: “Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ yn falch iawn o gefnogi busnes arall i ehangu yn y Fwrdeistref.

“Bydd grant Kickstart yn helpu Powerhose Technical i brynu offer newydd i helpu i ehangu eu busnes. Dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw.

“Rydym yn annog pob busnes newydd a’r rhai personol i gysylltu â thîm Adfywio ac Economaidd y Cyngor i drafod pa fentrau a chefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw; os ydych naill ai’n awyddus i sefydlu busnes newydd, trafod syniadau neu dyfu’ch busnes. Mae cyngor a chymorth busnes i’w gael gydol y flwyddyn trwy ganolfan fusnes y Cyngor sef www.blaenaugwentbusinesshub.co.uk neu gallwch e-bostio business@blaenau-gwent.gov.uk .”