Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gwerth £1.2 biliwn, a allai weddnewid economi de-ddwyrain Cymru, wedi’i chadarnhau’n ffurfiol heddiw (y 1af o Fawrth, 2017) yn ystod seremoni arbennig a gynhaliwyd Ddydd Gŵyl Dewi.
Bydd Bargen Ddinesig Caerdydd yn datgloi twf economaidd sylweddol ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR), sy’n cynnwys y deg awdurdod lleol sef Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Sir Fynwy, Pen-y-bont ar Ogwr, °¬²æAƬ, Torfaen a Chasnewydd.
Amcanion Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw creu swyddi a hybu ffyniant economaidd drwy wella cynhyrchiant, goresgyn diweithdra, adeiladu ar sylfeini arloesedd, buddsoddi mewn seilwaith ffisegol a digidol, darparu cymorth i fusnesau, a sicrhau y caiff unrhyw fuddion economaidd a grëir o ganlyniad eu teimlo ledled y rhanbarth.
Llofnododd arweinwyr y deg awdurdod lleol o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ddogfen y Fargen Ddinesig mewn seremoni ym Maes Awyr Caerdydd, ar ôl derbyn cefnogaeth unfrydol i’r rhaglen gan bob un o’r deg cyngor.
Mae’r Fargen Ddinesig yn cynnwys cyllid gwerth £734 miliwn ar gyfer Metro De Cymru, a darperir dros £500 miliwn ohono gan Lywodraeth Cymru a £125 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Darparodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyfraniad o £375 miliwn, a chytunodd y deg awdurdod lleol ar ymrwymiad i gael benthyg cyfanswm cyfunol o £120 miliwn fel rhan o’r Gronfa Buddsoddi Ehangach.
Golyga’r llofnodi heddiw bod Cabinet Rhanbarthol arweinwyr y deg awdurdod wedi dod allan o fod yn Gysgod, a bydd y Fargen Ddinesig yn dechrau ar gyfnod pontio.
Rhydd Cynllun Pontio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fanylion gweithgareddau allweddol sydd i’w cynnal, yn cynnwys sefydlu Swyddfa Ranbarthol i gymell y gwaith o gyflawni rhaglen waith y Cabinet Rhanbarthol, gan ragweld y derbynnir cynigion. Mae hyn yn cynnwys creu model penodedig i asesu effeithiau ar gyfer y cynigion hynny.
Bydd y cyfnod pontio hefyd yn gweld creu a datblygu tri chorff cynghori i’r Cabinet Rhanbarthol - Partneriaeth Twf Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sefydliad sy’n cynrychioli busnesau drwy’r rhanbarth i gyd, a Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau, ac un corff cyflawni, yr Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones
“Rwyf wrth fy modd bod Bargen Ddinesig dyngedfennol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gwerth £1.2 biliwn wedi’i chadarnhau’n ffurfiol.
“Gweithiodd Llywodraeth Cymru’n agos â’r deg awdurdod lleol a chyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i negodi’r fargen ddinesig, sef y gyntaf o’i math yng Nghymru. Roedd cyfraniad Llywodraeth Cymru o dros £500 miliwn mewn cyllid ar gyfer y Metro yn anhepgor bwysig i sicrhau’r fargen. Bydd y Metro’n allweddol yn y gwaith o gyflawni’n cynlluniau i wella cysylltedd trafnidiaeth a ffyniant economaidd yn y rhanbarth.
“Rwyf yn falch bod y ddinas-ranbarth yn awr wedi cyrraedd y cyfnod lle y gall ddechrau ar y gwaith o ddarparu prosiectau fydd yn gwneud gwir wahaniaeth i economi’r rhanbarth, ac yn y pen draw, i fywydau pobl.â€
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, cadeirydd Cabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf:
“Mae heddiw’n ddiwrnod hanesyddol i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd.
“Mae arweinwyr a swyddogion wedi gweithio’n eithriadol o galed dros yr 16 mis diwethaf i gael y Fargen Ddinesig i’r safle hwn, yn neilltuol o ran cyrraedd cytundeb ynglÅ·n â threfn lywodraethu ac atebolrwydd y Cabinet Rhanbarthol.“Gan weithio â rhanddeiliaid, a chyda busnesau yn neilltuol, fe wnawn greu newid economaidd a chymdeithasol sylfaenol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, drwy well trafnidiaeth, cefnogi arloesedd, gwell rhwydwaith digidol, datblygu sgiliau, cefnogi menter a thwf busnes, a thrwy ddatblygiad tai ac adfywiad.“Bydd ein model asesu effeithiau yn bwysig iawn oherwydd y bydd yn golygu mwy na llwyddiant Gwerth Ychwanegol Gros. Byddwn yn gobeithio gweld gwelliannau cymdeithasol a chymunedol pendant yn ogystal.â€