°¬²æAƬ

Mwy o bobl ifanc i fanteisio o Gynllun Dug Caeredin

Bydd Gwobr Dug Caeredin yn dal i fod ar gael i bobl ifanc ym Mlaenau Gwent ar ôl i Wasanaeth Ieuenctid y Cyngor gael trwydded i redeg y cynllun am dair blynedd arall.

Mae Gwobr Dug Caeredin ar gael i bob person ifanc o flwyddyn ysgol 9 ymlaen. Tra’u bod yn cymryd rhan yn y Wobr, gosodir tasgau bersonol ar gyfer y sawl sy’n cymryd rhan fydd yn her iddynt. Mae Gwobr Dug Caeredin yn ei gwneud yn ofynnol i bob unigolyn gwblhau pedair adran: Gwirfoddoli, Sgiliau, Corfforol ac Alldaith, gan arwain at Wobr Efydd, Arian neu Aur.

Dywedodd Stephanie Price, Cyfarwyddwr Gwobr Dug Caeredin Cymru:

“Rydym yn falch iawn i barhau ein partneriaeth gyda Gwasanaeth Ieuenctid °¬²æAƬ. Er gwaethaf anawsterau’r pandemig, mae’r gwasanaeth wedi parhau i gefnogi ac ennyn diddordeb pobl ifanc sy’n cymryd rhan yng Ngwobr Dug Caeredin. Mae’n wych gweld nad yw’r brwdfrydedd ac egni ar gyfer Gwobr Dug Caeredin wedi pallu yn yr ardal ac mae cynnig y Wobr i gynifer o bobl ag sydd modd yn parhau’n flaenoriaeth uchel wrth symud ymlaen.â€

Drwy Wobr Dug Caeredin, bydd pobl ifanc yn gwneud ffrindiau ac atgofion ac yn meithrin nodweddion fel hyder, cydnerthedd a hunanbarch, a all fod o fudd i iechyd meddwl. Byddant yn ennill sgiliau a nodweddion ar gyfer gwaith a bywyd, fel datrys problemau, gweithio tîm a hunangymhelliant – a byddant yn cyflawni Gwobr a gaiff ei chydnabod gan gyflogwyr blaenllaw ac a all eu helpu i sefyll allan pan fyddant yn gwneud cais i brifysgol neu swydd.

Mae rhaglen Gwobr Dug Caeredin pob person ifanc yn bersonol iddyn nhw – gallant ddewis yr hyn yr hoffent ei wneud ar gyfer eu hadrannau Sgiliau, Gwirfoddoli a Chorfforol, a gall y rhan fwyaf o weithgareddau gyfrif.

Dros y deng mlynedd ddiwethaf mae’r Gwasanaeth Ieuenctid wedi cefnogi mwy na 1,500 o bobl ifanc i gyflawni Gwobr Dug Caeredin Efydd, Arian neu Aur. Yn ystod y cyfnod hwn mae pobl ifanc o Flaenau Gwent wedi cwblhau rhaglen amrywiol o weithgareddau yn cynnwys hyfforddi chwaraeon, gwirfoddoli cymunedol, nofio dŵr agored a dringo ymhlith pethau eraill.

Fel arfer yr alldaith yw’r rhan fwyaf heriol ond gwerth chweil o Wobr Dug Caeredin. Fel rhan o dîm, mae pobl ifanc yn cwblhau rhaglen hyfforddiant alldaith, gan eu helpu i ennill yr holl sgiliau sydd eu hangen i gymryd rhan mewn taith anturus, hunanddigonol o ddau, tri neu bedwar diwrnod (yn dibynnu ar lefel y Wobr), gan ganfod eu ffordd ar hyd llwybr, bryn neu fynydd a gynlluniwyd ymlaen llaw, gan wersylla ar hyd y ffordd.

Ar ôl cwblhau gwobr, gwahoddir y sawl a gymerodd ran i fynychu digwyddiad cyflwyno lleol. fodd bynnag, pan fyddant wedi ennill Gwobr Aur Dug Caeredin, caiff pobl ifanc eu gwahodd i fynychu Palas St James neu Balas Buckingham i dderbyn eu tystysgrif Aur.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol dros Addysg y Cyngor:

“Rydym yn falch i fedru cynnig Gwobr Dug Caeredin i bobl ifanc °¬²æAƬ am dair blynedd arall. Mae’n gyfle gwych i unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan a dangos y cyfuniad o waith caled, penderfyniad a llawer o hwyl i bawb sy’n cymryd rhan.â€

Os hoffech wybod mwy am Wobr Dug Caeredin ym Mlaenau Gwent, anfonwch e-bost at
catherine.parker@blaenau-gwent.gov.uk a chewch eich gwahodd i gymryd rhan yn un o’n sesiynau gwybodeth ar-lein.