Treuliodd wyth myfyriwr BTEC lefel 8 wythnos yng Nghartref Gofal Cwrt Mytton yn Abertyleri. Mae Cwrt Mytton yn gartref preswyl ar gyfer yr henoed, llawer ohonynt gyda dementia.
Cysylltodd y cartref gofal, sy'n defnyddio ymagwedd Pili Pala at ddementia, â Choleg Gwent. Fel rhan o'u hymrwymiad i wella gofal a bywydau preswylwyr gyda dementia, dymunent fywiogi golwg y cartref gofal i'w wneud yn fwy ysgogol.
Cytunwyd y byddai'r myfyrwyr yn treulio wythnos yn y cartref gofal yn cynhyrchu cynlluniau ar rai o'r ffenestri. Dewisodd y myfyrwyr greu cynlluniau gyda thema gardd gan fod y cartref wedi'i rannu'n dair adran - Pabi, Cennin Pedr a Blodau Haul. Fe wnaeth y myfyrwyr hefyd integreiddio'r Cymoedd yn eu cynlluniau.
Dywedodd John Smale, Cysylltydd Cymunedol Cartref Gofal Mytton: "Ar ran ein holl staff a phreswylwyr, hoffwn ddiolch i'r myfyrwyr am eu holl waith caled yn peintio'r ffenestri ac yn bywiogi ymddangosiad y cartref.
"Mae'r ffenestri eisoes yn llwyddiannus iawn gan fod preswylwyr, teulu a ffrindiau wedi'u defnyddio i ddechrau sgwrs ac maent i gyd wedi dweud pa mor hyfryd a sionc ydynt, yn ogystal â pha mor groesawgar y bu'r cartref ers cwblhau’r paentiadau.
"Hoffwn hefyd ddiolch i'r holl fyfyrwyr am fod mor ystyriol a chynnes gyda'r holl breswylwyr. Gall weithiau fod yn her cysylltu neu ryngweithio gyda phobl sy'n byw gyda dementia, ond roedd y myfyrwyr yn gyfeillgar ac roedd ganddynt amser o hyd at gyfer preswylwyr a wnaeth wahaniaeth mawr i'r rhai sy'n byw yn y cartref."
Dywedodd Stacey Knight, Darlithydd yng Ngholeg Gwent:
"Roedd y prosiect cymunedol yn rhan o Fagloriaeth Cymru y myfyrwyr. Roedd yn llwyddiant mawr ac yn wir ymdrech tîm gan bawb a gymerodd ran.
"Roedd y myfyrwyr yn boblogaidd iawn gyda staff a phreswylwyr cartref gofal Cwrt Mytton. Fe wnaethant ddangos aeddfedrwydd ac agwedd mor garedig a gofalus at y preswylwyr - y rhan fwyaf ohonynt yn byw gyda dementia. Treuliodd rhai ohonynt fwy o amser gyda phreswylwyr nag a wnaethant yn peintio!"