Cynhaliwyd noswaith arall wych yn y Gwobrau Anelu'n Uchel wrth i brentisiaid a chyflogwyr o Raglen Rhannu Prentisiaeth Anelu'n Uchel ddod ynghyd i ddathlu blwyddyn arall lwyddiannus. Cynhaliwyd y seremoni Wobrwyo yn y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy ar 29 Tachwedd 2018 gyda dros 120 o bobl yn bresennol yn cynnwys prentisiaid, cyflogwyr nawdd a phartneriaid lleol.
Cyflwynwyd tystysgrifau cydnabyddiaeth i brentisiaeth sydd wedi cwblhau fframweithiau'n llwyddiannus ac wedi dechrau ar gyflogaeth lawn-amser. Dilynwyd hyn gan gyflwyniadau i'r prentisiaid llwyddiannus yma sy'n cwblhau blynyddoedd un, dau a thri y rhaglen. Croesawodd Andrew Bevan, Cydlynydd y Rhaglen, hefyd bedwerydd cohort newydd o brentisiaid i'r rhaglen.
Ar y noswaith derbyniodd deuddeg o brentisiaid a thri cyflogwr nawdd wobrau mewn amrywiaeth o gategorĂŻau. Fodd bynnag enillwyr y prif gategorĂŻau gwobrau oedd:
Categori Gwobr 2018 | Enillydd | Cwmni |
---|---|---|
Seren Lachar | Jordan Baker | GTEM |
Model RĂ´l Rhagorol | Jordan Impey | Eurocaps Cyf |
Gwobr Mentoriaid Anelu'n Uchel °¬˛ćAƬ | Macauley Webber | PCI Pharma |
Cyflogwr Nawdd y Flwyddyn | PCI Pharma | |
Prentis y Flwyddyn | Declan Hughes | Continental Teves |
Sefydlwyd y cynllun rhwng diwydiant, addysg a Chyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ. Caiff ei gyllido drwy Lywodraeth Cymru a Pharth Menter Glynebwy i hwyluso a chefnogi busnesau lleol drwy recriwtio prentisiaid, gyda'r nod o lenwi'r bwlch sgiliau cynyddol o fewn gweithgynhyrchu lleol. Gyda ffocws dechreuol ar beirianneg, mae'r rhaglen yn awr wedi datblygu i ddarparu lleoliadau prentisiaeth am ystod eang o feysydd sy'n cynnwys llwybrau prentisiaeth Peirianneg Mecanyddol, Ariannol, Technoleg Gwybodaeth a Masnachol.
Dywedodd y Cyng David Davies, Aelod Gweithredol Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬˛ćAƬ:
"Hoffwn longyfarch ar yr holl brentisiaid a chyflogwyr a enillodd wobrau a phawb a gymerodd ran wrth greu rhaglen mor arloesol, sy'n mynd i'r afael ag anghenion busnesau a hefyd brentisiaid ym Mlaenau Gwent.
Mae'n hanfodol fod prentisiaid yn datblygu sgiliau newydd, nid yn unig mewn amgylchedd ystafell ddosbarth, ond hefyd y profiadau bywyd go iawn mai dim ond yn y gweithle y gellir eu dysgu. Mae Anelu'n Uchel yn uno'r ddau osodiad hyn i sicrhau fod gweithlu medrus iawn ar gyfer y dyfodol.
Mae Anelu'n Uchel yn gynllun rhagorol a welodd gyflogwyr, darparwyr addysg, llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i ddarparu prentisiaid yn yr ardal. Aeth o nerth i nerth yn ddiweddar gyda llawer o gyflogwyr newydd yn ymuno.
Mae hyn yn sicrhau fod cyfleoedd hyfforddiant ardderchog ar gyfer pobl ym Mlaenau Gwent, yn ogystal â sicrhau y gall cyflogwyr ddod o hyd i bobl gyda'r sgiliau cywir i helpu eu busnesau i ffynnu. Mae hefyd nifer o gynlluniau newydd ar y gorwel fydd yn hybu'r rhaglen, yn cynnwys Canolfan Technoleg a Hyb Dysgu, fydd yn ddelfrydol i brentisiaid a chwmnïau ddatblygu."