°¬²æAƬ

Penodi Arweinydd a Phwyllgor Gweithredol °¬²æAƬ yn y CCB

Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol °¬²æAƬ yn rhithiol heddiw (dydd Iau 27 Mai 2021).

Ailetholwyd y Cynghorydd Nigel Daniels yn Arweinydd y Cyngor ac yn Aelod Gweithredol Gwasanaethau Corfforaethol, gyda’r Cynghorydd David ‘Dai’ Davies yn cael ei ail-ethol yn Ddirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd.

Etholwyd y Cynghorydd Julie Holt yn Gadeirydd y Cyngor a’r Cyng Malcolm Day yn Is-gadeirydd.

Aelodau Pwyllgor Gweithredol y Cyngor a’u portffolios perthnasol yw:

•&²Ô²ú²õ±è;Arweinydd a Gwasanaethau Corfforaethol – Cynghorydd Nigel Daniels
•&²Ô²ú²õ±è;Ddirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd – Cynghorydd Dai Davies
•&²Ô²ú²õ±è;Addysg – Cynghorydd Joanne Collins
•&²Ô²ú²õ±è;Amgylchedd – Cynghorydd Joanna Wilkins
•&²Ô²ú²õ±è;Gwasanaethau Cymdeithasol – Cynghorydd John Mason

Dywedodd Cyng Nigel Daniels, yr Arweinydd:

“Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn amser anhygoel o anodd ac annesmwyth i bawb. Mae’r Pwyllgor Gweithredol a benodwyd heddiw, ynghyd â chadeiryddion ac is-gadeiryddion pwyllgorau, yn rhoi sefydlogrwydd a phrofiad. Byddwn yn parhau i weithio’n galed yn ein portffolios perthnasol i helpu ein cymunedau i sicrhau adferiad o effeithiau’r pandemig, a hefyd i ddatblygu’r blaenoriaethau y mae ein preswylwyr yn dweud wrthym sy’n bwysig iddynt.

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i holl aelodau’r Cyngor am eu gwaith caled a’u hymroddiad yn cefnogi eu hetholwyr drwy gydol y pandemig.â€

Cafodd Cadeiryddion a Dirprwy Gadeiryddion y pwyllgorau dilynol hefyd eu penodi

•&²Ô²ú²õ±è;Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol – Cyng Stewart Healy (Cadeirydd) a’r Cyng Martin Cook (Is-gadeirydd)
•&²Ô²ú²õ±è;Gwasanaethau Democrataidd – Cyng John C Morgan (Cadeirydd) a’r Cyng Bob Summers (Is-gadeirydd)
•&²Ô²ú²õ±è;Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol – Cyng Steve Thomas (Cadeirydd) a’r Cyng Keri Rowson (Is-gadeirydd)
•&²Ô²ú²õ±è;Craffu Addysg a Dysgu – Cyng Haydn Trollope (Cadeirydd) a’r Cyng Julie Holt (Is-gadeirydd)
•&²Ô²ú²õ±è;Craffu Gwasanaethau Cymunedol – Cyng Mandy Moore (Cadeirydd) a’r Cyng Clive Meredith (Is-gadeirydd)
•&²Ô²ú²õ±è;Craffu Adfywio – Cyng John Hill (Cadeirydd) a’r Cyng Gareth A Davies (Is-gadeirydd)
•&²Ô²ú²õ±è;Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol – Cyng Denzil Hancock (Cadeirydd) a’r Cyng Wayne Hodgins (Is-gadeirydd)

Bydd y Pwyllgor yn cytuno ar Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio maes o law.

Bydd manylion llawn holl bwyllgorau’r Pwyllgor a chynrychiolwyr ar gyrff allanol ar gael ar wefan y Cyngor - /en/council/councillors-and-committees/