°¬˛ćAƬ

Prifddinas Ranbarth Caerdydd

Mae’r Bartneriaeth Twf Economaidd (EGP) wedi dadlennu’i Chynllun Twf Diwydiannol ac Economaidd ar gyfer De-ddwyrain Cymru i wella cynhyrchiant a llewyrch ledled De-ddwyrain Cymru yn y dyfodol.

Mae’r Cynllun yn ymateb i’r heriau dynamig y bydd y rhanbarth yn eu hwynebu dros yr ugain mlynedd nesaf.

Mae’r Cynllun yn golygu:

  • Canfod cryfderau a gwendidau’r rhanbarth a manteisio hyd yr eithaf ar ei gyfleoedd.
  • Canfod a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddod â budd i fusnesau a chreu gweithlu hynod fedrus, sydd wedi’u cymell yn dda ac sy’n flaengar eu syniadau.
  • Galluogi seilwaith priodol i wella cysylltedd, yn ddigidol ac yn ffisegol, fel ei gilydd.
  • Datblygu cyfleoedd i annog arloesi ac entrepreneuriaeth.
  • Creu Cronfa Buddsoddi mewn Arloesi sy’n creu cyfleoedd i fusnesau gystadlu a chyfrannu tuag at dyfu nifer y swyddi a chreu gwelliant yn y metrig Gwerth Ychwanegol Gros lleol.

Mae’r Cynllun yn adeiladu ar y fframwaith cyffredinol ar gyfer gweithredu a amlinellwyd gan adroddiad y Comisiwn Twf a Chystadleuaeth, a gyflwynodd ei ganfyddiadau ym mis Rhagfyr 2016.

Dywedodd Frank Holmes, Cadeirydd Partneriaeth Twf Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sydd wedi datblygu’r Cynllun:

“Caiff y  Cynllun ei arwain gan ddiwydiant ac fe’i datblygwyd gan fusnesau.  Mae’n amlygu rhai o faterion cynhyrchiant economaidd y rhanbarth, ac mae’n cadarnhau prosiectau y gellir eu haddasu ac a arweinir gan arloesedd, sy’n angenrheidiol i greu twf cynaliadwy a llewyrch cynhwysol.

“Mae’n eiriol dros gysylltedd byd-eang drwy fuddsoddi mewn systemau trafnidiaeth o’r radd flaenaf, tai, seilwaith digidol, a sgiliau y mae modd cael cyflogaeth ohonynt er mwyn cyflawni’i amcanion cystadleuol o greu swyddi, cael gwell Gwerth Ychwanegol Gros a throsoli buddsoddiadau bytholwyrdd.

“Fel gydag unrhyw gynllun, fe bennir ei lwyddiant gan weithredu ac arweinyddiaeth, sy’n gofyn i bob rhanddeiliad ymrwymo i’w gyflenwi, ac uchelgais o greu rhanbarth economaidd ffyniannus a chadarn sy’n angenrheidiol i gynnal llewyrch cenedlaethau’r dyfodol i ddod.”  

“Mae’n hanfodol bod gan y cynllun hwn a’r rhanbarth hwn welededd a dylanwad y tu allan i Gymru, ac yn wir, yn fyd-eang.  Daw’n cystadleuaeth o dramor ac o’r rhanbarthau eraill yn y Deyrnas Unedig, fel ei gilydd.

“Mae cydlyniant ymysg yr holl randdeiliaid yn hanfodol i lwyddiant y Cynllun.  Mae hyn yn cynnwys polisi cydgysylltiedig rhanbarthol a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, partneriaethau sector cyhoeddus-preifat, cydweithredu cyfatebol â darparwyr addysg ac ymgysylltu â mentrau cymdeithasol.  Gyda’r partneriaethau hyn, mae’r Cynllun yn bwriadu gwella sgiliau presennol a datblygu sgiliau newydd fydd yn gyson â sectorau ffocws y rhanbarth.

“Felly, fe fyddwn yn hyrwyddo ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid, nid yn unig yng Nghymru ond ymhellach i ffwrdd hefyd.”

Cydweithredodd y Bartneriaeth Twf Economaidd yn agos â Chabinet y Fargen Ddinesig drwy gydol y broses, ac mae wedi llwyr gymeradwyo’r Cynllun terfynol. 

Gan adeiladu ar gyfle a mantais gystadleuol y rhanbarth o fewn yr economi, mae’r Cynllun yn targedu’n strategol sectorau i gael cymorth i dyfu a ffynnu.  Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod wedi’u cyfyngu i: 

  • Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a’u cadwyn gyflenwi; 
  • Deallusrwydd Artiffisial, Data a Seiberddiogelwch; 
  • Technoleg Ariannol; 
  • Economi Creadigol;  
  • Gwyddorau bywyd – yn fwy penodol, yr is-sectorau diagnosteg a dyfeisiadau meddygol;  
  • Peirianneg Trafnidiaeth – cerbydau, trenau ac awyrennau.

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd eisoes wedi dechrau buddsoddi yn y diwydiannau hyn, gan ddarparu ÂŁ38.5 miliwn i gynorthwyo clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd, a leolir yn Ne-ddwyrain Cymru.

Mater hanfodol arall y mae’r Cynllun Twf Economaidd yn canolbwyntio arno yw seilwaith dibynadwy sy’n cysylltu’r rhanbarth, nid yn unig ledled y rhanbarth ond hefyd y tu hwnt iddo.  Drwy wneud y rhanbarth yn fwy hygyrch, fe all y Cynllun gynorthwyo cymunedau o amddifadedd ac ynysig sydd ar hyn o bryd wedi’u cysylltu’n wael, ac fe all annog twf atgynhyrchiol.  Tanategir seilwaith y rhanbarth yn y dyfodol gan Fetro De Cymru gwerth ÂŁ734 miliwn, a gyllidir â buddsoddiad y Fargen Ddinesig.

Mae’r Bartneriaeth Twf Economaidd hefyd wedi cael y gorchwyl o gynllunio Fframwaith Buddsoddi a Seilwaith fydd yn rhoi sylw i dri o flaenoriaethau buddsoddi dynodedig a chydgysylltiedig, sef arloesi, seilwaith a heriau diwydiannol symudedd, poblogaeth sy’n heneiddio, Deallusrwydd Artiffisial a thwf economaidd a arweinir gan heriau.  Mae hon yn ymagwedd ddyfeisgar sy’n cydnabod yr angen i wella’r amgylchedd busnes o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan wneud y rhanbarth yn gystadleuol ac yn werth buddsoddi ynddo, gyda ffocws byd-eang, yn fewnol ac yn allanol.

Dywedodd Mr Holmes: “Mae’n rhaid gosod pwyslais ar ennill buddsoddiad rhanbarthol newydd yn gystadleuol drwy’r strategaeth ddiwydiannol drwy’r Deyrnas Unedig i gyd, a chyllideb gyflenwi flynyddol gyfunol UKRI ar gyfer hynny yw ÂŁ6.4 biliwn.  Ar hyn o bryd, mae gan Gymru lefelau isel o gynrychiolaeth yn y man hwn.  Mae arnom angen datblygu proffil a phresenoldeb mewn ffyrdd cadarnhaol.  Ni wna siarad â’r un bobl, a dweud wrth y rheiny sydd eisoes yn gwybod y stori, gyflawni hyn.  Mae arnom angen cyrraedd cynulleidfa ehangach i hyrwyddo’n rhanbarth sy’n ddeniadol i fuddsoddi ynddo.”

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Cadeirydd Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a Chadeirydd Cyngor Rhondda Cynon Taf:

“Mae’r Cabinet Rhanbarthol yn hynod fodlon ar sut mae’r Cynllun Twf Economaidd wedi’i ddatblygu, ac mae’n croesawu’r ffaith ei fod yn gwneud mwy na dim ond creu swyddi.  Mae’n ystyried y pedair agwedd gyfunol fydd yn ein helpu i dyfu’r economi: tai, trafnidiaeth, sgiliau a swyddi, ac yn ei dro, fe fydd hynny’n creu buddion economaidd ledled y rhanbarth."

“Gan weithio â Llywodraeth Cymru a chael ein harwain gan ein Partneriaeth Twf Economaidd, mae’n rhaid inni gynllunio ar gyfer byd lle nad oes yna ragor o fargeinion dinesig a dim rhagor o gyllid yr Undeb Ewropeaidd.”

Gellir cyrchu’r cynllun llawn ar wefan Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn yma.