Mae Pwyllgor Gweithredol Cyngor °¬²æAƬ heddiw (14 Ebrill 2021) wedi cymeradwyo adroddiad i wneud cais am gyllid gan raglen cyfrannu torfol dinesig ranbarthol.
Mae’r rhaglen cyfrannu torfol dinesig yn rhoi llwyfan sy’n galluogi pobl leol, grwpiau a busnesau gyda syniadau i wella eu hardal lleol, i ddod â phrosiectau yn fyw.
Mae ganddo’r gallu i gyflenwi prosiectau dan arweiniad y cyhoedd sy’n cyfoethogi agweddau cymdeithasol ac economaidd o fewn °¬²æAƬ.
Mae’r model blaengar yn gwella ymgysylltu gyda’r gymuned ac yn cefnogi dod â datrysiadau newydd i brosiectau a heriau a ddynodwyd yn lleol.
Dywedodd Richard Crook, Cyfarwyddwr Adfywio:
“Cafodd model llwyfan cyfrannu torfol dinesig ei ddefnyddio’n llwyddiannus gan nifer o awdurdodau ar draws y Deyrnas Unedig. Mae’n gyfle gwych i’r gymuned arwain ar brosiectau sydd o bwys iddynt. Os yw cais am gyllid yn llwyddiannus, bydd °¬²æAƬ yn gweithredu fel awdurdod arweiniol yng ngofal y rhaglen.â€