Datgysylltiedig – Bydd gweithwyr ieuenctid datgysylltiedig o amgylch °¬²æAƬ drwy'r haf, felly ymunwch â nhw am gemau hwyliog, gwybodaeth a chefnogaeth.
Open 4 Youth – Ymunwch â'r Gwasanaeth Ieuenctid yn ein noswaith chwarterol i bobl ifanc (11-17 oed) yn unig yng Nghanolfan Chwaraeon Glynebwy. Dewis helaeth o weithgareddau ar gael yn cynnwys llithrenni dŵr, pêl-droed, campfa, peli zorb, rhedeg rhydd a llawer mwy - i gyd am £1 y person.
Dyddiau Gwener Pêl-droed am Ddim - Casglwch eich ffrindiau ynghyd a chynnig tîm yn ein cynghreiriau wythnosol 5 bob ochr yng nghanolfannau chwaraeon Glynebwy ac Abertyleri. Gallwch weld eich cynnydd bob wythnos mewn tablau cynghrair a gaiff eu diweddaru, gan orffen mewn twrnameint rhanbarthol a ddaw â phawb ynghyd ddydd Gwener 28 Awst yn lleiniau Glynebwy.
Ysbrydoli Newid - cyfle i bobl ifanc 16-24 oed fynychu sesiwn galw heibio bob dydd Gwener, i gael cefnogaeth, cwrdd â ffrindiau newydd a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae gweithwyr ieuenctid ar gael i roi cyngor a chefnogaeth.
Fit & Fed - Mae Fit & Fed yn rhaglen bartneriaeth ar y cyd gyda'r Gwasanaeth Ieuenctid, Ysbrydoli - Datblygu Chwaraeon, Gemau Stryd a Tai Calon. Nod y rhaglen yw darparu gweithgareddau hwyliog mewn gwahanol osodiadau yn ogystal â brecwast a chinio. Mae manylion lle a phryd y cynhelir y rhaglen ar ddiwedd yr wybodaeth hon. Bydd yr elfen gweithgareddau yn fynediad agored rhwng 11.30 - 1.30pm, yn ddelfrydol ar gyfer ystod oedran 11+. Gall fod angen caniatâd ar gyfer rhai gweithgareddau e.e. mur dringo.
Caiff holl brosiectau eraill y Gwasanaeth Ieuenctid eu cynnal fel arfer megis Gwobr Dug Caeredin, Prosiectau Ysbrydoli, Gwasanaeth Cwnsela a llawer mwy. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Gwasanaeth Ieuenctid ar 01495 355811.
Rhaglen Haf Gwasanaeth Ieuenctid 2017