Cafodd Mr Carl Dean ei erlyn yn Llys Ynadon Casnewydd am droseddau amgylcheddol dan adran 34 (1) (b) a (1) (c) Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Mae'r troseddau'n cyfeirio at bersonau sydd wedi mewnforio, cynhyrchu, cludo neu gadw, trin neu waredu â gwastraff a gaiff ei reoli a methu cymryd pob mesur rhesymol i atal gwastraff rhag dianc o'i reolaeth.
Plediodd yn euog a chodwyd dirwy o £1000.00 arno gyda gorchymyn i dalu £350.000 mewn achosion llys a gordal dioddefwyr o £100.00.
Yn yr achos hwn talwyd i Mr Dean symud gwastraff o dŷ oedd yn cael ei adnewyddu ond cafodd y gwastraff ei dipio'n anghyfreithlon. Dywedodd Mr Dean ei fod wedi talu i is-gontractwr gael gwared â'r gwastraff ond roedd ganddo ddyletswydd gofal i gadw cofnod ysgrifenedig o'r weithred hon ac wedi methu gwneud hynny.
Dywedodd Garth Collier, Dirprwy Arweinydd ac Aelodaeth Gweithrediaeth dros yr Amgylchedd Cyngor Bwrdeisdref Sirol °¬²æAƬ:
“Mae tipio sbwriel yn anghyfreithlon yn broblem wrthgymdeithasol a pheryglus sy'n costio miloedd o bunnau i'w chlirio bob blwyddyn. Mae'n hyll ac yn llygru ein hamgylchedd. Nid oes unrhyw sbwriel am dipio anghyfreithlon neu gael gwared â sbwriel. Bydd y Cyngor yn ymchwilio cwynion gyda swyddog gorfodaeth profiadol, wedi'u hyfforddi ac os oes gennym ddigon o dystiolaeth i alluogi erlyniad, byddwn yn gwneud hynny.
"Mae'r achosion hyn hefyd yn dangos nad yw'n rhaid i chi daflu'r gwastraff eich hunan, gallwch fod yn esgeulus mewn ffyrdd eraill a all arwain at erlyniad am dipio anghyfreithlon megis peidio gwirio pwy rydych yn ei gomisiynu i fynd â'ch gwastraff i ffwrdd."