Lleoliad | Dyddiad | Amser |
---|---|---|
Brynmawr - Canol y Dref | Dydd Mawrth 25 Medi 2018 | 10am – 1pm |
Marchnad Abertyleri | Dydd Iau 27 Medi 2018 | 10am – 1pm |
Glynebwy - Tesco | Dydd Iau 27 Medi 2018 | 4pm – 6pm |
Blaenau - ochr Capel Salom | Dydd Llun 1 Hydref 2018 | 9am – 12pm |
Tredegar - Canol y Dref | Dydd Mawrth 2 Hydref 2018 | 1pm – 4pm |
Glynebwy - Marchnad | Dydd Gwener 5 Hydref 2018 | 10am – 1pm |
Brynmawr - Asda | Dydd Gwener 5 Hydref 2018 | 4pm – 6pm |
Bydd swyddogion y Cyngor ac aelodau ar gael i sgwrsio gyda pholisi am y polisi 'Dim Gwastraff Ochr;' a gyflwynwyd ym mhob rhan o Flaenau Gwent erbyn hyn. Nod y polisi yw gostwng faint o wastraff mae pobl yn ei roi allan i'w gasglu ac yn hytrach eu hannog i ailgylchu mwy, gan na chaiff bagiau ychwanegol a adewir wrth ochr eich bin (gwastraff ochr) eu casglu o hyn ymlaen.
Dangosodd ymchwil hefyd y gellir ailgylchu 70% o wastraff bagiau du. Gellir casglu'r rhan fwyaf o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu fel bwyd, tecstilau, gwydr, caniau, papur, plastig a chardfwrdd o dĹ· i dĹ· fel rhan o wasanaeth casglu wythnosol y Cyngor fu yn ei le ers nifer o flynyddoedd.
Mae'r rhaglen ymgysylltu yn parhau ag ymrwymiad Cyngor °¬˛ćAƬ i fod yn fwy rhagweithiol wrth ymgysylltu gyda phobl leol am benderfyniadau am ddarpariaeth gwasanaethau. Cynigir help a chyngor i bobl yn y sioeau teithio am yr hyn y gellir ei ailgylchu a'r offer i'w galluogi i gymryd rhan yn y gwasanaeth wythnosol o dĹ· i dĹ· megis cynwysyddion ailgylchu ychwanegol neu gymorth casglu ar gyfer pobl anabl ac oedrannus.
Dywedodd y Cynghorydd Garth Collier, Dirprwy Arweinydd Cyngor °¬˛ćAƬ:
“Mae'n rhaid i ni barhau i ailgylchu gymaint ag sydd modd er mwyn cyflawni'r targedau heriol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Hoffwn ddiolch i bobl leol a wnaeth bob ymdrech i ailgylchu eu gwastraff ond mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar y bobl hynny sy'n dal heb ymateb i'r newidiadau mewn ailgylchu sydd eu hangen i gyrraedd ein targedau. Bydd gorfodi Dim Gwastraff ochr yn cynyddu faint o wastraff ailgylchu a gasglwn ac yn helpu i ostwng faint o wastraff a anfonwn i domen lanw”.