Gwasanaethau Cwsmeriaid
Bydd C2BG (Canolfan Gyswllt y Cyngor) ar gau ddydd Llun 29 Mai 2017 a bydd yn ail-agor ddydd Mawrth 30 Mai 2017 am 9am.
Gellir cysylltu â'r gwasanaeth argyfwng tu allan i oriau ar y rhif arferol o 01495 311556 yn ystod y cyfnod hwn. Bydd gwasanaeth larwm Piper hefyd yn parhau i weithredu. Dylid gwneud ymholiadau am larymau Piper Lifeline tu allan i oriau swyddfa at 0845 056 8035.
Tîm Dyletswydd Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd Swyddfa'r Tîm Dyletswydd ar gau ar gau ddydd Llun 29 Mai 2017 a bydd yn ail-agor ddydd Mawrth 30 Mai 2017 am 9am.
Yn ystod cyfnod y Gwyliau Banc gellir cysylltu â'r Tîm Dyletswydd Argyfwng ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ar 0800 328 44 32.
Swyddfa Gofrestru °¬²æAƬ
Bydd y Swyddfa Gofrestru ar gau ddydd Llun 29 Mai 2017.
Gwasanaeth Etholiadol °¬²æAƬ
Bydd Gwasanaethau Etholiadol ar gau ddydd Llun 29 Mai 2017.
Desg Arian a Thaliadau
Bydd gwasanaethau cwsmeriaid budd-daliadau a'r ddesg arian ar gau ddydd Llun 29 Mai 2017 a byddant yn ail-agor ddydd Mawrth 30 Mai 2017 am 8.30am.
Mae'r llinell talu awtomatig 24 awr ar gael ar 0845 604 2635 ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno gwneud taliad rhwng y dyddiau hyn neu gellir gwneud taliadau drwy wefan °¬²æAƬ.
Gwasanaethau Casglu Gwastraff ac Ailgylchu
Bydd y gwasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu yn parhau fel arfer ar ŵyl banc dydd Llun 29 Mai 2017.