Derbyniodd staff a phob disgybl yng nghyfnod allweddol 2 hyfforddiant ymwybyddiaeth dementia i ddysgu am y 5 neges allweddol am Dementia a dysgu sut beth yw bywyd i bobl sy'n byw gyda'r salwch.
Dysgodd y disgyblion iau hefyd am Dementia trwy lyfr stori, 'The elephant that forgot'. Mae'r disgyblion wedi bod yn defnyddio eu gwybodaeth newydd wrth ymweld â chartrefi gofal lleol i ganu i drigolion.
Y nod yw helpu i gynyddu dealltwriaeth pobl ifanc o Dementia, a pha mor bwysig yw hi i gefnogi a gofalu am anwyliaid a chymdogion a allai fod yn byw gyda Dementia.
Mae Cyngor °¬˛ćAƬ, ynghyd â phartneriaid, yn gweithio tuag at wneud °¬˛ćAƬ i gyd yn fwrdeistref Dementia-Gyfeillgar ac mae staff y cyngor, swyddogion yr heddlu, meddygon a nyrsys i gyd wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth Ffrindiau Dementia.