°¬²æAƬ

Ysgrifennydd yr Economi yn croesawu cynlluniau ar gyfer pwerdy diogelwch digidol a seiberddiogelwch

Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi croesawu cynlluniau ar gyfer canolfan ragoriaeth newydd ar gyfer seiberddiogelwch a diogelwch digidol a fyddai’n cael ei lleoli mewn man canolog ym mhrosiect Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru.

Mae Thales, sef cwmni technoleg byd-eang sy'n cynnig atebion i farchnadoedd ym maes awyrofod, amddiffyn, cludiant, y gofod a diogelwch, yn gofyn i Lywodraeth Cymru am gymorth ar gyfer rhaglen a fyddai'n arwain at ddatblygu Canolfan Genedlaethol Manteisio ar Dechnoleg Ddigidol yng Nglynebwy.

Mae Thales yn bwriadu gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor °¬²æAƬ a Phrifysgol De Cymru i sefydlu’r ganolfan. Byddai'n gatalydd i sicrhau cyfleusterau ar gyfer hyfforddiant ac ymchwil addysgol ym maes technoleg seiber a thechnoleg ddigidol.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

Rwy'n falch o gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn trafod ei chynlluniau gyda Thales ar gyfer sefydlu Canolfan Genedlaethol Manteisio ar Dechnoleg Ddigidol fel rhan o'r prosiect Cymoedd Technoleg.

Gallai'r ganolfan yng Nglynebwy helpu Cymru i achub ar gyfleoedd byd-eang sy’n deillio o drawsnewid digidol ac i roi'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i fusnesau a fydd yn eu galluogi i sicrhau cyfran uwch o brosiectau rhanbarthol a chenedlaethol.

Gallai hefyd ysgogi a chreu gwaith mewn busnesau technoleg uchel eu gwerth. Mae hynny yn un o’r uchelgeisiau sydd wrth wraidd y prosiect Cymoedd Technoleg.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi ar hyn o bryd yn asesu cais Thales ar gyfer y ganolfan.

Dywedodd Gareth Williams, Is-lywydd busnes diogelwch a thechnoleg seiber Thales yn y DU:

Rydym wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru yn awyddus i weithio gyda'r diwydiant a sefydliadau academaidd i ddatblygu'r gallu a'r sgiliau hanfodol hyn yng Nghymru.

Un o brif fanteision y ganolfan ddigidol hon yw y bydd yn datblygu cyflenwad o bobl ddawnus yn y sector gynyddol bwysig hwn. Yn ogystal â datblygu sgiliau penodol, bydd yn galluogi busnesau mawr a bach i ddefnyddio technoleg trawsnewid digidol yn ddiogel.

Yn ôl eu natur, mae seiberddiogelwch a diogelwch digidol yn esblygu o hyd a bydd y ganolfan hon yn chwarae rhan bwysig yn hynny o beth. Mae gennym hefyd bartneriaeth sydd eisoes wedi'i sefydlu â Phrifysgol De Cymru ac mae'r bartneriaeth honno yn caniatáu inni gynnal ymchwil werthfawr i ddyfodol seiberddiogelwch.

Mae gallu'r Ganolfan i gynnal gwaith ymchwil a'i hallgymorth addysgol yn cael eu datblygu mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru sy'n bartner strategol i Thales UK ac yn sylfaenydd yr Academi Seiberddiogelwch Genedlaethol yng Nghasnewydd.

Dywedodd Julie Lydon OBE, Is-ganghellor a Phrif Weithredwr Prifysgol De Cymru:

Byddai'r ganolfan hon yn gam sylweddol tuag at ddatblygu enw da De Cymru fel rhanbarth sydd ar flaen y gad yn y farchnad fyd-eang ar gyfer graddedigion a gwybodaeth ymchwil ym maes technoleg seiber. Rydym am i'r ganolfan fanteisio ar botensial ymchwil academaidd sefydliadau addysg uwch ynghyd â gwybodaeth am y farchnad a gallu technolegol o fewn y diwydiant. Mae'n gyfuniad cyffrous a fyddai'n dda i'n cymunedau lleol, i Gymru ac i gymuned ddysgu broffesiynol y DU.

Mae'r prosiect Cymoedd Technoleg ym Mlaenau Gwent yn rhan o Dasglu Gweinidogol ehangach ar gyfer Cymoedd De Cymru. Sefydlwyd y tasglu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau newid go iawn i'r Cymoedd; i greu swyddi o ansawdd sy'n agosach i gartrefi pobl; i wella sgiliau pobl ac i sicrhau ffyniant i bawb.