°¬²æAƬ

Gwent Gydnerth

Cafodd prosiect Gwent Gydnerth ei gyllido gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant °¬²æAƬ. Mae’r rhaglen yn rhedeg tan haf 2022, ac mae’n dangos dull gweithredu tirwedd cyfan a chysylltedd ar draws De Ddwyrain Cymru er mwyn creu a gwella rhwydweithiau ecolegol cydnerth, darparu adnoddau naturiol a gaiff eu rheoli yn gynaliadwy ac egwyddorion ar gyfer cymunedau i werthfawrogi eu tirweddau a bywyd gwyllt.

Mae’r holl brosiect wedi ei seilio o amgylch nifer o ffrydiau gwaith:

Rhwydweithiau Ecolegol Cydnerth

Y weledigaeth yw Gwent sydd ag ecosystemau sy’n ffynnu, sy’n gydnerth i effeithiau newid hinsawdd tebyg i ddigwyddiadau tywydd difrifol ac a all addasu i newid mewn amodau, cefnogi poblogaethau cadarn o fywyd gwyllt amrywiol Cymru a bywyd planhigion. Mae ecosystemau yn darparu gwasanaethau a gaiff eu defnyddio yn gynaliadwy a’u gwerthfawogi gan gymunedau yn y rhanbarth.

I hybu cydnerthedd ein ecosystemau cynhyrchwyd adroddiad gyda teitl ‘Cyflwr Natur Gwent’ oedd yn edrych ar y data yn ymwneud â 100 rhywogaeth a grwpiau rhywogaeth ar draws Gwent. Yn dilyn yr adroddiad, cynhyrchwyd cynllun Gweithredu Adfer Natur Gwent fel canllaw strategol tuag at adferiad natur ar raddfa ranbarthol ar draws Gwent. Bydd y ddogfen hefyd yn cefnogi cynhyrchu tri chynllun gweithredu adfer natur lleol yn y tair partneriaeth Natur Lleol sydd o fewn Gwent: °¬²æAƬ a Thorfaen, Caerffili, Sir Fynwy a Chasnewydd.

Cynhaliwyd cyfres o brosiectau ar gyfer adfer natur ar draws Gwent fel rhan o’r ffrwd gwaith. Yn dilyn thema dŵr ffres, cafodd pyllau eu hadfer, pyllau dŵr tymhorol eu creu a gosod neu greu cartrefi i adar ac anifeiliaid fel trochwyr, sigl-ei-gwt a dyfrgwn. Plannwyd dolydd gwlyb a chafodd llawer o sbwriel ei dynnu o afonydd. Nod yr holl brosiectau oedd helpu adferiad natur a hyrwyddo cydnerthedd a chysylltedd ein ecosystemau yng Ngwent.

Mae Cynllun Gweithredu Adfer Natur Gwent ar gael yma:

Cynllun Gweithredu Adferiad Natur Gwent Fwyaf

Infertebratau Tomennydd Sborion Glo

Dan arweiniad Buglife Cymru, nod y prosiect oedd cynyddu ein gwybodaeth o ddosbarthiad ac amrywiaeth infertebratau mewn safleoedd sborion glo yng Ngwent drwy waith arolwg a digwyddiadau codi ymwybyddiaeth.

Fel rhan o’r ffrwd gwaith, defnyddiwyd Ffurflen Asesu Cynefin Sborion Glo i lunio rhestr o infertebratau allweddol ar gyfer safleoedd sborion glo, a wnaed i hwyluso asesiadau safle. Cafodd dalenni chwilio yn seiliedig ar yr un ffurflen eu paratoi ac maent ar gael a wefan Buglife. Cwblhawyd arolygon o rai o’n safleoedd sborion glo yng Ngwent a gwnaed argymhellion rheoli. Bu digwyddiadau a gweithdai gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol o gyflwyno’r ffrwd gwaith hwn. Bu nifer dda yn bresennol mewn digwyddiadau maes ac ymgysylltu tebyg i weithdai adnabod rhywogaethau, a gweithgorau ingynnal cynefinoedd sborion glo gyda gweithgareddau tebyg i glirio prysgwydd.

Afonydd

Caiff prosiect Afonydd ei arwain gan Gyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ ac mae’n anelu i roi dull tirwedd cyfan i wella ein rhwydweithiau glas.

Cafodd Partneriaethau Afon eu sefydlu a chynhaliwyd cyfarfodydd fel rhan o’n ffrwd gwaith afonydd. Nod y partneriaethau hyn yw gwella ein afonydd drwy gydweithio. Mae Ceidwaid Afonydd hefyd yn monitro’r afonydd. Trefnwyd a chynhaliwyd hyfforddiant Arolwg Cynefin Afon Dinasyddion mewn cysylltiad gyda’r Ganolfan Adfer Afonydd. Mae hyn yn galluogi aelodau o’r cyhoedd i gymryd rhan mewn gwyddor dinasyddion a helpu i fonitro’r afonydd ar draws Gwent.

Cynhaliwyd mwy o waith adfer afonydd a draws Gwent, yn cynnwys adfer cynefinoedd glannau afonydd, rheoli prysgwydd, plannu dolydd gwlyb a symud sbwriel a llygrwyr.

Safleoedd SINC a LWS

Caiff safleoedd SINC (Safleoedd Pwysig ar gyfer Cadwraeth Natur) a LWS (Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol) eu harwain gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent. Y nod yw cael system LWS Gwent yn seiliedig ar y gwersi a ddysgwyd yn datblygu system LWS Si Fynwy.

Fel rhan o’r ffrwd gwaith hwn cafodd 350 SINC eu hadolygu a chreu 70 LWS.

Bioamrywiaeth Trefol

Caiff y ffrwd gwaith hwn ei arwain gan Swyddog Bioamrywiaeth CBS °¬²æAƬ. Yn debyg i’r cymunedau cynaliadwy, bydd hefyd yn cysylltu gyda chymunedau ond yn arbennig yn gweithio gydag ysgolion, preswylwyr tai preifat a chymdeithasau tai. Caiff pobl eu hannog, eu hysbysu a’u cefnogi i gymryd camau i sylwi ar a helpu’r bioamrywiaeth ar garreg eu drws gan eu galluogi i wneud dewisiadau gwybodus i warchod bywyd gwyllt yn eu gerddi a mannau cymunedol.

Roedd y prosiectau yn y ffrwd gwaith yn cynnwys gweithio gyda grwpiau o fewn y gymuned a darparu pecynnau cofnodi bywyd gwyllt i unigolion, grwpiau cymunedol ac ysgolion. Cafodd pecynnau cofnodi tebyg eu dosbarthu ar draws Gwent, gan gysylltu’n agos gyda phrosiectau unigol pob awdurdod lleol. Roedd pecynnau’n cynnwys anifeiliaid fel ystlumod, ymlusgiaid, pili pala a draenogod a gallent gynnwys eitemau tebyg i fwydwyr adar a chanllawiau adnabod, blychau ystlum, canfyddwyr ystlum, tyllau draenogod a phlatiau cyfeirio metel, llyfrau natur a llesiant, planhigion ffrwythau a pherlysiau.

Anfonwyd gweithgareddau bob wythnos mewn rhannau o Went i annog ymgysylltu a chael adborth, gyda gweithgareddau’n cynnwys pethau fel garddio bywyd gwyllt, rysetiau’n defnyddio perlysiau gardd, digwyddiadau adnabod adar ac arolygon ystlumod. Cafodd unigolion eu hannog drwy’r digwyddiadau hyn i  gyflwyno eu cofnodion i SEWBReC a galluogi defnyddwyr i gael dirnadaeth a dealltwriaeth dda o’r math o fywyd gwyllt sydd ar gael ar garreg y drws.

Partneriaeth Gwent Gydnerth

Mae’r Bartneriaeth yn cynnwys nifer o sefydliadau ac yn cynnwys:

- Buglife
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
- Cyngor Dinas Casnewydd
- Cyngor Sir Fynwy
- Ecoleg Technegol
- SEWBReC
- Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent

Nod y Bartneriaeth yw bod yn llwyddiannus wrth herio ymwybyddiaeth a gwybodaeth o wella rhwydweithiau ecolegol cydnerth, gan arddangos cynaliadwyedd parhaus adnoddau naturiol. Bydd y prosiect yn cefnogi cydweithredu traws-sector i ddod ag ystod eang o fuddion amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, gyda gweledigaeth o Dde Ddwyrain Cymru gydag adnodd bioamrywiaeth cyfoethog a thwf a gaiff ei werthfawrogi gan bobl leol sy’n ymwneud gydag ef ar gyfer eu hiechyd a llesiant. Caiff camau eu cymryd ar bump sbardun colli bioamrywiaeth, newid hinsawdd, llygredd, newid a cholli cynefin, rhywogaethau estron goresgynnol ac ecsbloetiad.

Dogfennau Cysylltiedig