Arfarniad Cynaliadwyedd
Mae dyletswydd stadudol ar Gynlluniau Datblygu Lleol arfaethedig i fod yn wrthrych Arfarniad Cynaliadwyedd. RĂ´l yr Arfarniad Cynaliadwyedd yw asesu i ba raddau y bydd y polisĂŻau arfaethedig yn helpu i gwrdd ag amcanion amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol ehangach y CDLl.
Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS)
Mae hefyd ddyletswydd i asesu effeithiau amgylcheddol tebygol yn sgil gweithredu cynlluniau a rhaglenni perthnasol ac i archwilio calyniadau tebygol dewisiadau amgen na rhai’r cynllun.
Adroddiad Cwmpasu Drafft yr Arfarniad Cynaliadwyedd
Mae Adroddiad Cwmpasu Drafft yr Arfarniad Cynaliadwyedd ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig °¬˛ćAƬ yn amlinellu’r weithdrefn arfaethedig ar gyfer Arfarniad Cynaliadwedd y CDLl (AC) gan ymgorffori’r Asesiad Amgylcheddol Strategol.
Yr adroddiad yw cam cyntaf y broses AC ac mae’n amlinellu’r amcanion/criteria yr asesir y CDLl Diwygiedig yn eu herbyn. Mae hyn wedi cynnwys adolygiad o gynlluniau,rhaglenni, strategaethau a pholisïau perthnasol ynghyd ag adolygiad o sylfaen amglcheddol, cymdeithasol ac economaidd yr ardal.
Adroddiad Cwmpasu Drafft yr Arfarniad Cynaliadwyedd
Atodiad 1: Adolygiad o Gynlluniau, PolisĂŻau, Rhaglenni a Strategaethau
Atodiad 2: Data Sylfaen ar gyfer °¬˛ćAƬ
Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC)
Mae gofyn gwneud Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd i’r perwyl o asesu a fydd gan gynigion y Cynllun unrhyw effeithiau andwyol ar safleoedd dynodedig sy’n cynnwys Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGAau), safleoedd RAMSAR ac ACAau arfaethedig (ACAAau).
Adroddiad Cwmpasu ARhC Cychwynnol
˛Ń˛ą±đ’r adroddiad cwmpasu cychwynnol hwn yn gam cyntaf o ran gweithredu’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC) ar gyfer CDLl Diwygiedig °¬˛ćAƬ.