°¬²æAƬ

Strategaeth a Ffefrir/Cyfnod Cyn Adneuo

Y Strategaeth a Ffefrir yw’r cyhoeddiad swyddogol cyntaf wrth baratoi Cynllun Datblygu Lleol Newydd °¬²æAƬ.  Mae’n nodi diwedd cyfnod y paratoi cyn adneuo ac ymgysylltu, lle gweithiodd rhan-ddeiliaid gyda swyddogion ac aelodau i nodi’r heriau, y weledigaeth a’r strategaeth ar gyfer dogfen y Strategaeth a Ffefrir.

Rydym yn ymgynghori ar ein:

Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd;

Adroddiad Gwerthusiad Cynaladwyedd Integredig; ac 

Asesiad Rheoleiddio Cynefinoedd.

Strategaeth a Ffefrir 

Mae’r Strategaeth a Ffefrir yn amlinellu’r weledigaeth hir dymor ar gyfer °¬²æAƬ trwy awgrymu faint o ddatblygiad sydd ei angen o fewn y Fwrdeistref ac ymhle yn fras y mae’n debyg o fod dros y cyfnod o bymtheng mlynedd 2018-2033.  Mae’n nodi’r prif heriau sydd angen eu datrys ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN), gweledigaeth a nifer o amcanion.  Er mwyn cyflawni’r weledigaeth a’r amcanion mae’r strategaeth yn cynnwys 15 o bolisïau strategol. 

Sut mae cael dweud eich dweud am y Ddogfen Strategaeth a Ffefrir . . .

³¢²¹·É°ù±ô·É²â³Ù³ó´Ç’r Ddogfen Strategaeth a Ffefrir gyflawn yma   

Cwblhau’r arolwg ar-lein trwy’r ddolen hon

³¢²¹·É°ù±ô·É²â³Ù³ó´Ç’r ffurflen sylwadau hon a’i phostio neu ei e-bostio at y Tîm Polisïau Cynllunio trwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod

Crynodeb o’r Strategaeth a Ffefrir

Os hoffech ddarllen fersiwn fyrrach a symlach o’r ddogfen Strategaeth a Ffefrir, cewch lawrlwytho taflen gryno yma

Cewch gynnig sylwadau ar y daflen gryno hon trwy arolwg ar-lein trwy’r ddolen

Neu lawrlwythwch ffurflen sylwadau symlach sy’n berthnasol i’r daflen gryno yma a’i phostio neu ei e-bostio yn ôl at y Tîm Polisïau Cynllunio trwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.

Y dyddiad cau ar gyfer cynnig sylwadau yw 5 yp ar Ddydd Iau Chwefror 27 2020.

Ceir rhagor o gyngor gan y tîm trwy e-bost neu ar y ffôn ar 01495 355538

Adroddiad Cyntaf Gwerthusiad Cynaladwyedd Integredig

Yr adroddiad GC cyntaf yw ail gyfnod y broses GC sy’n gwerthuso effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y Strategaeth CDLl a Ffefrir.      

Sut i gael dweud eich dweud am y Ddogfen Adroddiad Cyntaf Gwerthusiad Cynaladwyedd Integredig . . .

Lawrlwythwch Adroddiad Cyntaf y Gwerthusiad Cynaladwyedd Integredig yma

Mae crynodeb gweithredol o’r ddogfen ar gael yma

Lawrlwythwch y ffurflen sylwadau a’i phostio neu ei e-bostio at y Tîm Polisïau Cynllunio trwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod

Asesiad Rheoleiddio Cynefinoedd

Pwrpas yr asesiad oedd nodi unrhyw agweddau ar y Cynllun a allai gael effaith niweidiol ar  safleoedd Natura 2000, a adwaenir fel arall fel safleoedd Ewropeaidd (Ardaloedd o Gadwedigaeth Arbennig (ACAau), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGAau) a safleoedd Ramsar), naill ai ar eu pennau’u hunain neu mewn cyfuniad â chynlluniau a phrosiectau eraill, gan gynghori ar weithdrefnau polisi cyfaddas i liniaru’r fath effeithiau lle nodwyd hwy. 

Sut i gael dweud eich dweud ar Ddogfen Adroddiad yr Asesiad Rheoleiddio Cynefinoedd . . .

Lawrlwythwch Adroddiad yr Asesiad Rheoleiddio Cynefinoedd yma 

Mae crynodeb gweithredol o’r ddogfen ar gael yma

Lawrlwythwch y ffurflen sylwadau a’i phostio neu ei e-bostio at y Tîm Polisïau Cynllunio trwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod

Mynychwch Ddigwyddiad Ymgynghori

Yn y digwyddiadau hyn, cewch siarad â swyddog cynllunio.  Serch hynny, bydd o hyd angen cynnig sylwadau ysgrifenedig trwy’r opsiynau uchod.

Amserlen Digwyddiadau    

Lleoliad

Dyddiad ac Amser

Llyfrgell Glyn Ebwy

21 Stryd Bethcar , Glyn Ebwy NP23 6HH

Dydd Iau Ionawr 30  13.30-17.30

Dydd Gwener Ionawr 31 9:00-13:00

Metropole Abertyleri

Stryd y Mitre, Abertyleri

Dydd Iau Chwefror 6 13.30-17.30

Dydd Gwener Chwefror 7 9:00-13:00

Marchnad Dan-do Tredegar

Canolfan Siopa Gwent, Tredegar NP22 3EJ

Dydd Iau Chwefror 13 12.30-16.30

Dydd Gwener Chwefror 14 9:00-13:00

Canolfan Addysg Brynmawr

8 Sgwâr y Farchnad, Brynmawr NP23 4AJ

Dydd Iau Chwefror 20 13.30-17.30

Dydd Gwener Chwefror 21 9:00-13:00

Y Ganolfan Ddinesig

Swyddfeydd Bwrdeisiol, Glyn Ebwy NP23 6XB

Dydd Mercher Chwefror 19 15:00-19:00

Ceir gweld copïau o’r dogfennau ymgynghorol yn ystod oriau agor yn y Ganolfan Ddinesig, Llys yr Eingion a phob llyfrgell leol.

I weld y papurau cefndirol a’r dogfennau cefnogol, clicier yma

Gwybodaeth Gyswllt

 

Tim Polisi Cynlunio

Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ Swyddfeydd

 

 

Ffon: 01495 369668

E-bost: planningpolicy@blaenau-gwent.gov.uk