Oherwydd problemau parhaus gyda’r cyflenwyr, ni allwn dderbyn unrhyw archebion newydd ar gyfer yr eitemau canlynol am y tro:
- Clawr Blwch Gwyrdd ar gyfer Gwydr Cymysg
- Clawr Blwch Glas ar gyfer Papur Cymysg
Cyn gynted ag y byddwn yn derbyn yr eitemau hyn, byddant ar gael i'w harchebu.
Yn anffodus ni fedrwn dderbyn na dosbarthu unrhyw archebion newydd ar gyfer yr eitemau dilynol:
- System Troliboc Gyfan
- Dim ond Troli Troliboc
- Blychau Troliboc ar gyfer Plastig, Gwydr a Chardfwrdd
- Caedau Coch, Glas a Gwyrdd Troliboc
- Fflapiau Coch a Gwyrdd Troliboc
- Blwch Papur a Chaead Troliboc
Beth fedrwch chi ei archebu?
Gallwch ddal i archebu blychau a chaeadau unigol, sachau hesian, sachau hesian cardfwrdd, cadis bwyd bach a mawr, sachau gwastraff gwyrdd, sachau glanweithdra/cewynnau melyn a biniau olwyn.
Ailgylchu eich batris o gartref - casglu bag bach gwyn ailddefnyddiad gyfer batris eich Hwb Cymunedol agosaf, sydd mewn lleoliad canolog yn yr holl lyfrgelloedd lleol a reolir gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin. Hybiau Cymunedol °¬²æAƬ | °¬²æAƬ CBC
Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r dudalen we yma wrth i fwy o eitemau ddod ar gael.
Ni fydd y ffurflen islaw yn gweithio gyda Internet Explorer. Defnyddiwch borwr fel Chrome, Edge neu Safari os gwelwch yn dda.
Cyn dechrau arni
I gofrestru ar gyfer casgliad, byddwch angen eich enw defnyddiwr a chyfrinair Fy Ngwasanaethau neu o’r sgrin mewngofnodi.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich archeb, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau. Anelwn ddosbarthu eich archeb ar y dyddiad nesaf sydd ar gael ar gyfer eich ardal.
Os oes angen i chi ganslo neu wneud newid
Gallwch newid neu ganslo eich archeb drwy ychwanegu nodyn drwy adran ‘Fy Adroddiadau’ yr ap symudol neu Borth Cwsmeriaid. Gallwch hefyd anfon e-bost atom neu ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 01495 311556.
Os ydych angen help
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar archebu offer a biniau Ailgylchu, anfonwch e-bost atom neu ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 01495 311556