°¬˛ćAƬ

Casgliadau â Chymorth

Beth yw “Casgliad â Chymorth?

Gall preswylwyr sydd yn methu defnyddio gwasanaethau casglu o ddrws i ddrws dros dro neu yn barhaol oherwydd eu gallu cyfyngedig i symud, ac nad oes unrhyw un arall i helpu, wneud cais am “Gasgliad â Chymorth”.

Mae “Casgliad â Chymorth” yn golygu y bydd y criwiau sbwriel ac ailgylchu yn casglu blychau a biniau olwyn o fan casglu cyfleus a gytunwyd ar gyfer y preswylydd. Yn anffodus, nid yw “Casgliad â Chymorth” yn cynnwys gwastraff gardd.

Dylid nodi nad yw’r gwasanaeth ar gael os oes preswylwyr abl eu corff yn byw yn yr un cyfeiriad.

Sut i wneud cais am “Gasgliad â Chymorth”

Bydd angen i ymgeiswyr lenwi ffurflen i ganfod os ydynt yn gymwys am y gwasanaeth.

Gall preswylwyr naill ai gofrestru am “Gasgliad â Chymorth” ar-lein neu drwy ffonio 01495 311556.

Bydd angen cadarnhad o’r dilynol wrth wneud cais am gasgliad â chymorth:

  • Rheswm am y cais
  • Manylion unrhyw un arall sy’n byw yn yr un cartref
  • Rhesymau pam na all unrhyw un arall sy’n byw yn yr un cartref symud y gwastraff a/neu ailgylchu
  • Pa wasanaethau y mae’r ymgeisydd angen cymorth gyda nhw

Beth sy’n digwydd ar ôl cyflwyno cais?

Fel rhan o’r broses, bydd aelod o’r Tîm Gwasanaethau Gwastraff yn ymweld â’r preswylydd i lenwi’r cais am “Gasgliad â Chymorth”. Bydd yr ymweliad hwn yn cynnwys man casglu addas lle gall y preswylydd gyflwyno eu gwastraff ac ailgylchu tu allan i’w cartref, yn destun ar asesiad risg Iechyd a Diogelwch.

Dylai preswylwyr ganiatáu deg diwrnod gwaith er mwyn i aelod o’r Tîm Gwasanaethau Gwastraff gysylltu â nhw i gadarnhau “Casgliad â Chymorth”.

Unwaith y cafodd y Casgliad â Chymorth ei drefnu, caiff y man casglu ei gadarnhau gyda’r criwiau priodol. Cynhelir asesiad risg os bernir bod angen hynny er mwyn sicrhau diogelwch y criwiau casglu.


Os ydych angen “Casgliad â Chymorth Dros Dro”

Os bydd preswylwyr sydd angen Casgliad â Chymorth dros dro, er enghraifft yn ystod cyfnod adfer yn dilyn llaw-driniaeth, byddwn yn cytuno ar y cyfnod y byddant angen cymorth. Caiff y cymorth hwn ei derfynu yn awtomatig ar ôl y dyddiad terfynu a gytunwyd. Bydd angen i breswylwyr wneud cais arall os ydynt angen cymorth am gyfnod hirach nag a gytunwyd yn wreidddiol.

Sut i ganslo “Casgliad â Cymorth”?

Gall breswylwyr ganslo “Casgliad â Chymorth” ar-lein drwy ffonio 01495 311556.

Cyn cychwyn arni, byddwch angen

Eich enw defnyddiwr a chyfrinair Fy Ngwasanaethau neu gallwch greu cyfrif drwy glicio ar y sgrin mewngofnodi.

Os dymunwch wneud cais am y gwasanaeth hwn ar ran rhywun arall, cysylltwch â C2BG ar 01495 311556 os gwelwch yn dda.

Os ydych angen help

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am “Gasgliadau â Chymorth”, angen diweddaru eich manylion, canslo’r gwasanaeth neu’n cael anawsterau yn defnyddio ein gwasanaeth ar-lein, cysylltwch â C2BG ar 01495 311556 os gwelwch yn dda.