°¬²æAƬ

Gofalwn Cymru Ymgyrchoedd

Tynnu sylw at rolau ym maes Gofal Cymdeithasol

Croeso i hyb ymgyrch ‘Gofalwn Cymru’ ar gyfer °¬²æAƬ – eich adnodd hanfodol ar gyfer yr wybodaeth ddiweddaraf ar ein hymrwymiad i hyrwyddo a chefnogi gyrfaoedd yn y sector gofal cymdeithasol. Mae awdurdod lleol °¬²æAƬ yn ymfalchïo yn ein cysylltiad gydag ymgyrchoedd cenedlaethol ‘Gofalwn Cymru’, gan ganolbwyntio ar wahanol agweddau o’r sector gofal cymdeithasol egnïol a gwerth chweil. Ymchwiliwch ein adrannau neilltuol isod i gael gwybodaeth ar bob ymgyrch.

Ymgyrch Gofal Cartref

Ym Mlaenau Gwent, rydym yn deall pwysigrwydd Gofal Cartref a’r unigolion ymroddedig sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl bob dydd. Mae ein hymgyrch Gofal Cartref yn rhoi sylw i’r cyfleoedd sydd ar gael yn ein cymuned a’r effaith y gallwch ei chael drwy roi gofal a chymorth o fewn cysur cartref rhywun.

Darganfyddwch y Gofal Calon Cartref: darllenwch fwy am yr ymgyrch Gofal Cartref yma.

Ymgyrch Gofal Plant

Canfyddwch lawenydd llunio meddyliau ifanc a meithrin amgylchedd cefnogol yn ein ymgyrch Gofal Plant. Mae °¬²æAƬ yn ymroddedig i arddangos y gyrfaoedd gwerth chweil sydd ar gael mewn addysg a gofal plentyndod cynnar. Ymunwch â ni wrth greu effaith gadarnhaol ar y genhedlaeth nesaf.

Llunio Dyfodol mewn Gofal Plant: darllenwch fwy am yr ymgyrch Gofal Plant yma.

Ymgyrch Prentisiaeth

Dechreuwch ar daith o ddysgu a thwf gyda’n hymgyrch Prentisiaeth. Mae °¬²æAƬ yn falch i gefnogi prentisiaethau o fewn y sector gofal cymdeithasol, gan roi llwybr i unigolion ennill sgiliau gwerthfawr a gwneud cyfraniad ystyrlon i’n cymuned.

Trawsnewid Trwy Brentisiaethau: darllenwch fwy am yr ymgyrch Brentisiaethau yma.

Ymgyrch Gwaith Cymdeithasol

Wrth galon gofal cymdeithasol, mae ein hymgyrch Gwaith Cymdeithasol yn rhoi sylw i rôl hollbwysig gweithwyr cymdeithasol wrth gefnogi unigolion a theuluoedd. Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth, wrth i ni ddangos y cyfleoedd amrywiol a’r effaith enfawr y gall gwaith cymdeithasol ei gael ym Mlaenau Gwent.

Grymuso Newid trwy Waith Cymdeithasol: darllenwch fwy am yr ymgyrch Gwaith Cymdeithasol yma.

Pam dewis °¬²æAƬ ar gyfer eich gyrfa mewn Gofal Cymdeithasol?

Mae °¬²æAƬ yn ymroddedig i feithrin amgylchedd cefnogol a chynhwysol ar gyfer unigolion sy’n dymuno cael gyrfa mewn gofal cymdeithasol. Mae ein awdurdod lleol yn cynnig cyfleoedd unigryw ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, gyda ffocws ar gael effaith gadarnhaol ar fywydau’r rhai a wasanaethwn.

Ymunwch â ni wrth ddathlu byd anhygoel gyrfaoedd gofal cymdeithasol. Ymchwiliwch ein ymgyrchoedd, darganfod y posibiliadau a bod yn rhan o’r gwaith ystyrlon sy’n mynd rhagddo ym Mlaenau Gwent.

Cysylltu â ni

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yrfaoedd mewn gofal cymdeithasol, cysylltwch â:Ìýchelsie.meredith@blaenau-gwent.gov.ukÌý

Ìý