°¬²æAƬ

Ceisiadau Hylendid Bwyd a Gymeradwywyd a Mangreoedd a Gymeradwywyd

Crynodeb o Hylendid Bwyd a Gymeradwywyd

Os ydych yn gweithredu math penodol o safle bwyd megis safle prosesu cig fe allai fod angen i chi gael eich cymeradwyo gan eich Cyngor. Mae hyn yn ychwanegol at y gofynion arferol i gofrestru fel busnes bwyd.

Mae enghreifftiau o’r mathau o safleoedd sydd angen eu cymeradwyo gan awdurdodau lleol yn rhai annibynnol (h.y. safleoedd heb fod yng nghlwm wrth ladd-dy, ffatri dorri neu safle trafod helgig) o’r natur ganlynol:

  • safleoedd prosesu cig
  • safleoedd paratoi cig
  • gweithrediadau prosesu briwgig a gweithfeydd prosesu cig wedi’i wahanu’n fecanyddol
  • storfa oer

Sylwch NAD yw’r uchod yn rhestr faith a dylech gysylltu â’r Tîm Masnachol o fewn Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd i benderfynu a fydd angen cymeradwyaeth ar eich busnes bwyd.

Pwy All Wneud Cais?

Nis oes cyfyngiadau ar bwy all wneud cais am gofrestru busnes bwyd.

Pa ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r cais hwn?

A oes yn rhaid i fi dalu ffi am gofrestru?

Nid oes ffi yn daladwy am y cais hwn.

Faint fydd hi’n cymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig yn weithredol?

Bydd eich cais yn cymryd hyd at 28 niwrnod i’w brosesu. Ni fydd caniatâd dealledig yn weithredol. Mae o ddiddordeb cyffredinol fod yn rhaid i awdurdod brosesu’ch cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol o fewn 28 niwrnod, os gwelwch yn dda, cysylltwch â ni.

Cofiwch, os gwelwch yn dda, ei bod yn drosedd gweithredu busnes bwyd sydd angen cymeradwyaeth heb i’r gymeradwyaeth ofynnol fod yn ei lle.  

neu fel arall gellir darparu copi o’r ffurflen gais i chi o wneud cais amdani.

A allaf i apelio os yw fy nghais yn aflwyddiannus?

Cysylltwch, os gwelwch yn dda, â’r Tîm Masnachol o fewn Iechyd yr Amgylchedd yn y lle cyntaf ynghylch unrhyw geisiadau cofrestru a ddychwelwyd neu a wrthodwyd.

Cwyn Defnyddiwr

Petaech yn dymuno gwneud cwyn, os gwelwch yn dda, cysylltwch â’r Tîm Masnachol o fewn Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd.

Cyngor Ychwanegol i Weithredwyr Busnesau Bwyd parthed ceisiadau Mangreoedd a Gymeradwywyd

Gellir derbyn gwybodaeth bellach parthed y broses gymeradwyo oddi wrth y Tîm Masnachol o fewn Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd. Mae cyngor a rhestr o’r safleoedd cyfredol yn rhwym wrth gymeradwyaeth o fewn y DU, gan gynnwys y rheiny o fewn ardal °¬²æAƬ, hefyd ar gael ar . 

Gwybodaeth Gyswllt

Tîm Masnachol
Rhif Ffôn: 01495 369542
Cyfeiriad: Amddiffyn y Cyhoedd –
Iechyd yr Amgylchedd, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy, NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk