°¬²æAƬ

Cwynion ynghylch Sŵn

Mae gwaith Tîm Llygredd y Cyngor parthed llygredd sŵn yn bennaf yn ymwneud â rheoli allyriadau sŵn i mewn i’r amgylchedd. Bydd lefel ac amledd sŵn yn dderbyniol i un person a heb fod yn dderbyniol i berson arall a gallai ostwng ansawdd bywyd person.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd i ymchwilio i gwynion ynghylch sŵn sy’n deilio o safleoedd domestig neu fasnachol, larwm cerbyd neu gyfarpar mecanyddol, dan Ddeddf Amddiffyn yr Amgylchedd 1990 Rhan 111 – niwsans Statudol a’r Ddeddf Sŵn 1996.

Ar gyfartaledd rydym yn ymchwilio i dros 400 o gwynion ynghylch niwsans sŵn bob blwyddyn. Gallwch ein hysbysu o’r cwynion canlynol ynghylch sŵn:

Ìý

  • Cymdogion swnllyd (cerddoriaeth, gweiddi, larymau, DIY ar oriau afresymol).
  • Sŵn o safleoedd masnachol (tafarndai, mannau cyfarfod, systemau awyru, larymau)
  • Sŵn o safleoedd diwydiannol (ffatrïoedd, adeiladu, dymchwel, larymau)
  • Larymau ceir neu setiau stereo uchel (dim ond pan mae’r cerbyd wedi ei barcio)
  • Cŵn yn cyfarth yn ddi-baid

Nid ydym yn gallu dod i’r adwy ar gyfer sŵn traffig ar y ffordd na throseddau trefn gyhoeddus.

Gwneud cwyn

Os nad ydych yn gallu datrys y broblem eich hun, dywedwch wrthym amdani ac fe ymchwiliwn i mewn iddi. I ymchwilio i gwynion yn ymwneud â sŵn, bydd angen i chi ddarparu manylion yn eich cylch chi’ch hun a’r eiddo’n achosi’r sŵn honedig.

Fe allech hefyd ddod o hyd i gyngor yn ymwneud â llygredd sŵn ar y taflenni ymgynghorol a ddarperir ar y dudalen hon.

Os hoffech wneud cwyn i ni ynghylch sŵn ffoniwch, os gwelwch yn dda, C2BG ar (01495) 311556

Cofiwch, os gwelwch yn dda, na allwn dderbyn cwynion anhysbys ynghylch sŵn.

E-bost : environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk

Ìý

Ìý

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Os hoffech wneud cwyn i ni ynghylch sŵn ffoniwch, os gwelwch yn dda, C2BG ar (01495) 311556.
Cofiwch, os gwelwch yn dda, na allwn dderbyn cwynion anhysbys ynghylch sŵn.ÌýRhowch wybod amdano yn

E-bost : environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk