Mae’ch bil treth gyngor llawn yn seiliedig ar o leiaf dau oedolyn yn byw mewn cartref; fodd bynnag mae rhai preswylwyr sydd wedi’i heithrio o hyn. Os mai dim ond un person yn y cartref sy’n atebol o dalu’r Dreth Gyngor, bydd y bil yn cael ei ostwng gan 25%. Nid yw’r oedolion canlynol yn cael eu cyfri yn nifer yr oedolion sy’n byw yn y cartref . Cliciwch ar y dolenni canlynol i lawrlwytho’r ffurflen gais briodol:
- Pobl ifanc 18-19 mlwydd oed mewn addysg amser llawn
- Cynorthwywyr ieithoedd tramor
- Aelodau o gymuned grefyddol
- Cleifion mewn ysbyty, cartref neu hostel
Dyfarnir pan mae dim ond un person dros 18 oed sy’n byw yn y cartref.
Os ydych yn credu y gallech fod yn gymwys, cysylltwch ag adran y dreth gyngor.
Os yw’ch amgylchiadau’n newid a’ch bod ddim bellach yn gymwys am ostyngiad, rhaid i chi roi gwybod i ni yn syth er mwyn osgoi talu dirwy.
Gwybodaeth Gyswllt
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Adran y Treth Gyngor
Ffôn - (01495) 363900
Post - Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ Y Swyddfeydd Cyffredinol Heol Gwaith Dur Glynebwy NP23 6DN
E-bost : CTax@blaenau-gwent.gov.uk