Beth am rieni nad ydynt yn siarad Cymraeg! |
Gyda’r rhan fwyaf o rieni yn ein hardal heb fod yn siarad Cymraeg, mae systemau cymorth wedi sefydlu’n dda yn Gymraeg a Saesneg ar gael yn ein hysgol Gymraeg |
Beth am eu sgiliau yn y Saesneg? |
Bydd plant yn rhugl yn y Gymraeg pan adawant yr ysgol gynradd a hefyd mor rhugl yn Saesneg â phlant o ysgolion cyfrwng Saesneg. |
Pam addysg cyfrwng Cymraeg? |
Mae safon yr addysg yn rhagorol,, mae’n rhwydd i blant ddysgu iaith ac maent yn gallu mwynhau eu bywyd yn Gymraeg ac yn Saesneg! |
Ond mae fy mhlentyn eisoes wedi dechrau ar daith addysg mewn ysgol cyfrwng Saesneg. |
Gall plant ddechrau mewn ysgol gynradd Gymraeg ar unrhyw adeg. Mae unedau trochi arbennig yn ein hysgolion lle gellir trochi disgyblion yn y Gymraeg cyn iddynt fynd i ystafell ddosbarth. |
Sut gall fy mhlentyn gyrraedd ein hysgol Gymraeg leol? |
Mae °¬²æAƬ yn darparu cludiant am ddim i’r ysgol gyda disgyblion sy’n byw 1.5 milltir neu fwy o’r ysgol gynradd Gymraeg agosaf a 2 filltir neu fwy o’r ysgol uwchradd Gymraeg agosaf. |
A allaf helpu fy mhlentyn gyda gwaith cartref yn y Gymraeg? |
Gallwch. Gan nad yw’r rhan fwyaf o blant yn siarad Cymraeg gartref, mae ysgolion cyfrwng Cymraeg yn brofiadol iawn wrth gefnogi disgyblion a rhieni. Bydd yr ysgol yn darparu’r gwaith yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ìý Ar gyfer disgyblion iau, caiff cyfarwyddiadau ar gyfer gwaith cartref eu rhoi mewn ysgrifen yn Gymraeg a hefyd yn Saesneg. Maes o law, gall plant esbonio eu gwaith i’w rhieni eu hunain. Mewn gwirionedd, mae ymchwil yn awgrymu y gall delio â’u gwaith mewn dwy iaith helpu plant i ddeall y pwnc y maent yn ei astudio. Mae gwefan addysg Hwb Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi mynediad i amrywiaeth o ddulliau dysgu digidol ac adnoddau sydd ar gael yn genedlaethol. |