°¬²æAƬ

Cyflogaeth plant / plant mewn adloniant

Mae gan lawer o blant swyddi rhan-amser, tebyg i ddosbarthu papurau newydd, ac mae eraill yn ymwneud ag adloniant neu fodelu. Mae nifer o reolau a rheoliadau a gynlluniwyd i helpu sicrhau caiff plant sy’n gweithio neu’n ymwneud ag adloniant eu cadw’n ddiogel ac nad ydynt yn cael eu hecsbloetio.

Pwy sydd angen trwydded?

Mae pob plentyn o oedran ysgol gorfodol h.y. 16 oed a iau, angen trwydded i’w galluogi i wneud unrhyw fath o waith, ar dâl neu’n ddi-dâl, rhan-amser neu lawn-amser. Fodd bynnag, mae’n rhaid i blant fod yn 14 oed i wneud unrhyw waith rhan-amser.

Faint o oed sy’n rhaid i berson ifanc fod i gael gweithio?

Gall pobl ifanc dan oedran ysgol (16) gael swydd ran-amser o 14 oed. Fodd bynnag, dim ond yn yr hyn a ystyrir yn ‘waith ysgafn’ y gellir eu cyflogi. Mae hyn yn golygu na allant wneud unrhyw swydd a all effeithio ar eu hiechyd a diogelwch neu darfu ar eu haddysg.

Mae mwy o wybodaeth yn y ddogfen hon am yr hyn y gall ac na all pobl ifanc ei wneud.

Beth yw dyletswyddau’r awdurdod lleol?

Mae’r Gwasanaeth Lles Addysg yn gyfrifol am fonitro a chyhoeddi trwyddedau yn ymwneud â chyflogaeth pobl ifanc.

Bydd y person ifanc yn cael cerdyn adnabod i brofi fod yr awdurdod lleol wedi rhoi trwydded iddynt.

Os caiff person ifanc ei gyflogi heb gael trwydded gan yr awdurdod lleol, yna mae’r cyflogwr wedi cyflogi plentyn yn anghyfreithlon a gallant fod yn agored i weithredu cyfreithiol.

Os yw’r awdurdod lleol yn amau fod person ifanc yn gweithio a bod hynny’n cael effaith niweidiol ar eu haddysg, yna mae’n rhaid i’r rhieni a’r cyflogwr roi gwybodaeth am fanylion cyflogaeth i’r awdurdod lleol. Mae methiant i roi’r wybodaeth hon yn drosedd ac mae’r rhiant a’r cyflogwr yn atebol am ddirwy lefel 1 neu eu carcharu am 1 mis neu’r ddau.

Sut i wneud cais am drwydded cyflogaeth plentyn

I wneud cais am drwydded cyflogaeth plentyn, bydd yn rhaid i gyflogwyr gyflwyno’r dilynol:

  • Ffurflen gais
  • Asesiad risg yn cyfeirio at y gwaith a wneir gan y plentyn: dylai’r cyflogwr ystyried diffyg profiad person ifanc, absenoldeb ymwybyddiaeth am risgiau presennol neu bosibl ac oedran. Rhaid rhannu’r asesiad risg gyda rhiant neu ofalwr y person ifanc cyn i’r gyflogaeth ddechrau
  • Ffotograff

I gyflwyno’r dogfennau hyn neu i wneud cais am fwy o wybodaeth cysylltwch â educationwelfareservice@blaenau-gwent.gov.uk

Dogfennau a dolenni

Ffurflen gais

Asesiad risg

Gwybodaeth i rieni

Gwybodaeth i gyflogwyr

Oriau gwaith a ganiateir

Perfformiadau plant

Plant mewn adloniant

Daw o dan Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1933/63 a Rheoliadau Plant (Perfformiadau Gweithgareddau) (Cymru) 2015.

Gall fod yn rhaid i blant sy’n ymwneud ag adloniant tebyg i: teledu, ffilm, theatr, modelu, sioeau dawns, pantomeim, drama amatur, grwpiau cerddoriaeth a chwaraeon sy’n derbyn tâl (p’un ai broffesiynol neu amatur) gael trwydded perfformiad a chaperone trwyddedig.

Diben y gofynion hyn yw sicrhau nad yw’r ‘gwaith’ yn niweidiol i les ac addysg y plentyn. Ceir trwyddedau plant drwy’r awdurdod lleol y mae’r plentyn yn byw ynddo.

Pa drwydded perfformiad plant sydd ei hangen?

  • Ar gyfer pob plentyn o’u geni hyd at ddiwedd eu haddysg orfodol. Caiff hyn ei ddiffinio fel y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd y maent yn cyrraedd 16 oed.
  • Pan godir tâl mewn cysylltiad gyda’r perfformiad. Mae hyn yn weithredol p’un ai yw’r perfformwyr yn cael eu talu ai peidio.
  • Pan fo’r perfformiad yn digwydd mewn safle trwyddedig neu glwb cofrestredig.
  • Pan gaiff y perfformiad ei recordio i gael ei ddarlledu neu ei arddangos (er enghraifft ar y teledu, radio, ffilm, rhyngrwyd ac yn y blaen).

Trwydded chaperone

Mae’n rhaid i blant sy’n cymryd rhan mewn perfformiadau cyhoeddus neu adloniant dan drwydded awdurdod lleol gael eu goruchwylio gan chaperone cymeradwy os nad ydynt yng ngofal eu rhiant neu diwtor cymeradwy.

Mae prif ddyletswydd chaperone i’r plant yn eu gofal. Maent yn gyfrifol am ddiogelu, cefnogi a hyrwyddo llesiant y plentyn a mae’n rhaid iddynt beidio cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd fyddai’n ymyrryd gyda’u dyletswyddau.

I wneud cais am drwydded chaperone mae’n rhaid i ymgeisydd fod dros 18 oed a bod â thystysgrif DBS ddilys. Mae trwyddedau chaperone yn ddilys am dair blynedd. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn adnewyddu’r drwydded ar ddiwedd y cyfnod hon gan nad ydym yn cyhoeddi llythyrau adnewyddu.

Darllenwch yr wybodaeth isod a llenwi’r ffurflen gais os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn chaperone.

Ffurflen Gais Chaperone

Chaperone Manyleb Swydd

Hysbyseb Swydd

Ffurflen Ganiatâd Chaperone

Beth yw’r eithriadau?

Caiff eithriadau eu nodi yn Adran 37(3) Deddf 1963, ac nid ydynt ond yn gweithredu lle na wneir unrhyw daliad heblaw treuliau yng nghyswllt y plentyn sy’n cymryd rhan yn y perfformiad i’r plentyn neu berson arall.  heblaw treuliau. Nid yw’r eithriadau hyn yn weithredol i dâl am chwaraeon neu dâl am fodelu. Yr eithriadau yw:

Y rheol 4 diwrnod

Ni fydd plentyn angen trwydded am berfformiad am bedwerydd diwrnod os nad yw wedi perfformio am fwy na 3 diwrnod yn y 6 mis diwethaf. Unwaith mae plentyn wedi perfformio ar 4 diwrnod mewn cyfnod 6 mis (mewn unrhyw berfformiad, p’un ai oedd trwydded yn ei lle ar unrhyw un o’r dyddiau hynny neu fod y plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad a drefnwyd dan gymeradwyaeth corff o bersonau), yna mae angen trwydded ar gyfer unrhyw berfformiadau pellach (os nad yw un o’r eithriadau eraill y cyfeirir atynt isod yn weithredol).

Os yw plentyn i fod yn absennol o’r ysgol, ni fedrir dibynnu ar yr eithriad hwn: bydd angen trwydded.

Cymeradwyaeth Corff o Bersonau (BOPA)

Mewn rhai achosion, gall trefnydd perfformiad sy’n cynnwys plant wneud cais am BOPA. Mae BOPA yn cynnwys pob plentyn mewn un gymeradwyaeth, yn hytrach na thrwyddedau unigol ar gyfer pob plentyn. Yr awdurdod lleol sydd i benderfynu os y byddir yn cyhoeddi BOPA.

Caiff unrhyw sefydliad wneud cais am BOPA, cyn belled nad oes unrhyw plentyn yn derbyn tâl. Bydd yr awdurdod lleol angen sicrwydd fod gan y corff bolisïau clir a chadarn ac sydd wedi sefydlu’n dda ar gyfer diogelu plant. Dylai ceisiadau am BOPA gael eu gwneud i’r awdurdod lleol lle mae’r perfformiad yn digwydd, gall yr awdurdod lleol roi cymeradwyaeth hyd yn oed os nad yw’r plant sy’n cymryd rhan yn byw o fewn ei ffiniau. Os y’i rhoddir, mae BOPA yn dileu’r angen i wneud cais am drwydded unigol ar gyfer pob plentyn, caiff ei roi i’r sefydliad sy’n gyfrifol am y perfformiad. Gall yr awdurdod osod amodau y teimlant sydd eu hangen i sicrhau llesiant y plant sy’n gysylltiedig a gallant ddileu cymeradwyaeth os na chaiff y rhain eu cyflawni.

Ni fedrir dibynnu ar yr eithriad hwn os yw plentyn i fod yn absennol o’r ysgol: bydd angen trwydded.

Perfformiadau a drefnir gan ysgol

Nid yw hyn yn cynnwys ysgolion dawns neu ddrama, sy’n rhaid iddynt wneud cais am drwyddedau lle mae angen.

Proses gais

Mae’n ofyniad cyfreithiol i geisio trwydded pan fo angen un a gellir erlyn unrhyw berson sy’n achosi neu sy’n caffael unrhyw blentyn i wneud unrhyw beth yn groes i’r ddeddfwriaeth trwyddedu p’un ai yw plentyn yn perfformio dan drwydded neu beidio, mae’r un ddyletswydd gofal yn weithredol.

Llenwch y ffurflenni perthnasol isod os ydych yn dymuno gwneud cais am drwydded.

Gŵyl Cais BOPA - Digwyddiadau

Cais BOPA

Ffurflen gais eithrio Plant mewn Adloniant

Trwydded BG

Nodyn: Dylai’r ffurflen hon gael ei llenwi a’i chyflwyno i’r awdurdod trwyddedu ddim llai na 21 diwrnod cyn y perfformiad cyntaf neu weithgaredd y gofynnir am drwydded ar ei gyfer, gan y gall yr awdeurdod trwyddedu fel arall wrthod rhoi trwydded. Efallai na chaiff trwydded ei rhoi os ceir y cais lai na 21 diwrnod cyn y dyddiad y mae angen y drwydded. Mae’n annhebygol iawn y rhoddir trwydded os ceir y cais lai na bum diwrnod gwaith cyn y dyddiad y mae angen y drwydded.

Rheoliadau a chanllawiau

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y rheoliadau a’r canllawiau dilynol:

Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar wefan  .

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â’r Gwasanaeth Lles Addysg ar educationwelfareservice@blaenau-gwent.gov.uk