Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg
Mae’r setiau sgiliau sydd eu hangen yn y gweithle wedi newid yn sylweddol dros y degawd diwethaf, gyda newidiadau enfawr yn ein heconomi byd-eang ac angen dulliau newydd, blaengar i hyfforddi gweithlu’r dyfodol. Wedi’u gyrru yn bennaf gan ddatblygiadau technolegol, mae llawer o swyddi wedi diflannu’n llwyr oherwydd awtomeiddio tra bod rhai newydd yn ymddangos bob dydd. Mae’r ffordd y mae myfyrwyr yn rhyngweithio, dysgu a chysylltu hefyd wedi newid fel bod angen rhaglen newydd o ddysgu i unioni’r fantol.
Mae STEM yn ymagwedd at ddysgu a datblygu sy’n integreiddio Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Mae sgiliau allweddol tebyg i greadigrwydd ac arloesi, meddwl beirniadol a datrys problemau, effeithlonrwydd personol, cynllunio a threfnu ymysg y sgiliau newydd sydd eu hangen i greu gweithlu cystadleuol a all addasu i’r newid yn y gweithle.
Prosiect Hwyluso STEM °¬²æAƬ
Lansiwyd cam peilot Prosiect Hwyluso STEM °¬²æAƬ (BG) yn gynnar yn 2021 tan fis Mawrth 2023 ar gyfer clwstwr ysgolion Ebwy Fawr yn unig. Nod y prosiect oedd sefydlu rhaglen gydlynol o gymorth STEM, yn canolbwyntio ar ddiwydiant ac a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru drwy fenter y Cymoedd Technoleg.
Mae rhaglen y Cymoedd Technoleg yn creu amgylchedd perffaith ar gyfer y math o ddiwydiannau clyfar, cyflym sy’n newid ein ffordd o fyw a gweithio ac mae wedi’i chanoli yma ym Mlaenau Gwent. Mae ein rhanbarth yn dod yn fagwrfa uwch-dechnoleg ar gyfer datblygu technolegau newydd a gweithgynhyrchu uwch gyda Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £100m dros 10 mlynedd i greu 1,500 a mwy o swyddi. Erbyn 2027 bydd °¬²æAƬ a Chymoedd De Cymru yn ganolfan a gydnabyddir yn fyd-eang ar gyfer datblygu technolegau newydd i gefnogi diwydiannau sydd ar flaen y gad. Mae'r Cymoedd Technoleg yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ, diwydiant a'r byd academaidd i fuddsoddi yn y seilwaith a'r sgiliau i wneud iddo ddigwydd ac mae llawer o gwmnïau technoleg eisoes wedi gwneud °¬²æAƬ yn gartref iddynt.
Oherwydd llwyddiant cyfnod peilot Prosiect Hwyluso STEM °¬²æAƬ, dyfarnodd y Cymoedd Technoleg gyllid ychwanegol i ymestyn y prosiect i fis Mawrth 2025 ac i ehangu’r cynnig i bob ysgol ar draws °¬²æAƬ. Mae tîm Prosiect Hwyluso STEM BG yn gweithio gydag ysgolion, darparwyr a diwydiant i godi proffil STEM yn y gymuned ehangach a chydag ysgolion i ymgysylltu â dysgwyr er mwyn paratoi pobl ifanc â’r sgiliau y bydd eu hangen yn y maes hwn yn y dyfodol ar gyfer swyddi gwerth uchel, medrus iawn.
Amcanion allweddol:
- Sefydlu a chyflwyno rhaglen gydlynol o gefnogaeth STEM i ysgolion, yn canolbwyntio ar ddiwydiant sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm ysgol.
- Codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd a chynyddu lefelau dyhead a chyrhaeddiad o fewn pynciau STEM.
- Mynd i'r afael â'r gwahaniaeth rhwng dynion a merched mewn STEM.
- Uwchsgilio a gwella gwybodaeth am sgiliau digidol gydag athrawon a dysgwyr.
- Annog dysgwyr i ddatblygu parodrwydd ar gyfer gwaith STEM trwy ymyriadau busnes / diwydiant lleol.
I gael rhagor o wybodaeth a’r newyddion diweddaraf, gweler ein Padlet Prosiect STEM BG y gellir ei gyrchu drwy’r ddolen hon -