Pehchnogaeth
Sefydlwyd Gweithfeydd Haearn Sirhowy yn 1778.Ìý Rhwng 1794 a 1818, cawsant eu gweithredu gan William Borrow, y Parch Matthew Monkhouse a Richard Fothergill.Ìý Yn 1818 daeth y gweithfeydd i feddiant James Harford o Harford, Partridge and Co. o Lynebwy ac o’r dyddiad hwn ymlaen, cawsant eu gweithredu fel rhan o Weithfeydd Haearn Glynebwy yn y cwm i’r dwyrain. Roedd Sirhowy yn darparu haearn crai i Lynebwy ac yno roedd yn cael ei droi’n haearn gyrru ac, o ddiwedd y 19eg ganrif ymlaen, yn ddur.
Mwynhewch daith fideo isod:
¹ó´Ú·É°ù²Ô±ð²õ¾±Ìý
Here at Sirhowy we have some of the few remains of this early iron-making empire. To furnace at the southern end of the site is one of the oldest, but, by 1899, it had been converted into a limekiln.
Dyfeisiadau Newydd
Yn 1844, pan brynodd Abraham Darby & Co y ddau waith, roedd pum ffwrnes yn Sirhowy. Daeth cyfres o ddyfeisiadau newydd yn sgil hyn, y pwysicaf oedd perffeithio tynfa gynnes gan George Parry o Lynebwy yn 1850. Trwy ddefnyddio cloch a chôn fe gaeodd top y ffwrnes a oedd ar agor yn flaenorol. Bellach roedd modd pibo’r nwyon cynnes i lawr a’u defnyddio i gynhesu’r dynfa yn y ffyrnau chwythu cynnes.
´¡»å±ô³Ü²Ô¾±²¹»å²¹³ÜÌý
Mae adluniad 1877 yn adlewyrchu’r newidiadau hyn. Cafodd dwy ffwrnes a oedd yn sefyll o flaen y ddau bwa llai eu disodli gan un ffwrnes enfawr a oedd yn sefyll uwchben wal gyfredol y ffwrnes. Roedd rhaid adeiladu tyniad niwmatig arbennig i lwytho’r deunyddiau crai i dop y ffwrnes. Roedd agoriad mawr siâp cylch sy’n gallu cael ei weld yn nhop y bwa canol yn dal y ffynnon haearn bwrw ar gyfer hyn.
´¡°ù³Ù³óÌý
Gellir gweld yr ‘arth' o’r ffwrnes o flaen y bwa. Roedd hwn yn gymysgedd o haearn, golosg heb ei losgi, bric a slag a gasglodd ar waelod y ffwrnes ac roedd rhaid cael gwared arno o bryd i’w gilydd.
Roedd y nwyon gwastraff yn dod o gefn y ffwrnesi trwy pibau haearn bwrw i’w llosgi yn y ffyrnau. Roedd ychydig o lo hefyd yn cael ei ddefnyddio. O fewn y bwâu mae’r bibell chwythu, a thrwy hwn roedd prif bibell haearn bwrw yn dod ag aer o’r injans chwythu stem i’r ffyrnau chwythu cynnes. Yna roedd yr aer cynnes o’r rhain yn rhedeg i’r ffwrnesi.
Mae adluniad 1877 yn dangos y meysydd ymgynnull ar gyfer y deunyddiau crai y tu ôl i’r ffwrnesi. Daeth golosg o’r ffyrnau golosg, mwyn haearn o’r odynau calchynnu (ble roedd y mwyn yn cael ei rostio i gael gwared ar rai o’r amhureddau) a’r calchfaen o Chwareli Trefil i’r gogledd. Roedd y deunyddiau crai yn cael eu gollwng i mewn i finiau gyda’r deunyddiau crai parod yn cael eu tynnu allan a’u gwthio mewn whilberi llwytho i’w gollwng i mewn i dop y ffwrnesi. Ar ôl tua 12 awr, roedd y llwyth wedi cael ei leihau i haearn tawdd a slag i gael eu tapio i agoriad y ffwrnais a’r redeg i mewn i welyau moch neu dybiau slag haearn.
³Ò´Ç±ô´Ç²õ²µÌý
Erbyn 1877 roedd y swm o haearn a fwriwyd yn fwy nag y gellid ei roi yn y tai bwrw a chawsant eu dymchwel yn rhannol. Hyd yn oed ar ôl i wneud haearn ddod i ben yn Sirhowy tua 1883 fe barhaodd i gynhyrchu golosg ar gyfer Glynebwy tan iddo gau yn 1905.
Mae’r safle’n heneb restredig o bwysigrwydd cenedlaethol.
Gwybodaeth Gyswllt
Datblygiad Economaidd
Rhif Ffôn: 01495 355937 neu 07968 472812
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glyn Ebwy, °¬²æAƬ. NP23Ìý6DN Ìý
Cyfeiriad e-bost:Ìýalyson.tippings@blaenau-gwent.gov.uk
Ìý