°¬²æAƬ

Thora Silverthorne

Amgueddfa Abertyleri, Stryd y Farchnad, Abertyleri

Ganwyd Thora yn 170 Stryd Alma Abertyleri yn 1910 i’w rhieni George a Sarah Silverthorne ac roedd y pumed o wyth o blant. Cafodd ei haddysgu yn Ysgol Gynradd Nantyglo ac enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Ramadeg Abertyleri. Mynychodd yr ysgol Sul yng Nghapel Bedyddwyr °¬²æAƬ a phan oedd yn 16 oed, ymunodd â’r Gynghrair Comiwnyddion Ifanc.

Gwaetha’r modd, bu farw ei mam yn 1927 a symudodd y teulu i Loegr. Dywed rhai fod hyn oherwydd rôl ei thad fel undebwr llafur brwd. Cafodd gyflogaeth fel nani ar gyfer Sommervile Hastings, yr AS lleol yn Reading oedd wedi sefydlu ac yn llywydd y Gymdeithas Feddygol Sosialaidd. Anogodd yr AS hi i hyfforddi fel nyrs ac yn fuan roedd yn gweithio wrth ochr ei chwaer yn Ysbyty Radcliffe yn Rhydychen.

Pan ddechreuodd y Rhyfel Cartref yn Sbaen, roedd Thora yn un o’r cyntaf i ymuno â Phwyllgor Cymorth Meddygol Sbaen. Cafodd ei hethol yn fatron Ysbyty Prydeinig 36 gwely mewn ffermdy cyntefig ger Huesca, Aragon. Yma bu’n gofalu am filwyr wedi eu hanafu o’r Frigâd Ryngwladol dan yr amodau mwyaf heriol. Pan oedd yn Sbaen syrthiodd mewn cariad gyda Dr Kenneth Sinclair-Loutit, meddyg yn yr ysbyty, gan briodi pan ddychwelodd i Brydain yn 1937. Daeth yn is-olygydd Nursing Illustrated ac wedi’i chynhyrfu gan dâl ac amodau gwael nyrsys, sefydlodd yr undeb gyntaf i nyrsys, Cymdeithas Genedlaethol Nyrsys, yn 1973, gan achosi teimladau drwg ymysg yr hierarchaeth a sefydliad nyrsio. Maes o law unodd y Gymdeithas Genedlaethol Nyrsys gyda NUPE, dan arweiniad un arall o Abertyleri, Arthur Bryn Roberts, yr oedd gan Thora feddwl mawr ohono.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, priododd Thora â Nares Craig a daeth yn ysgrifennydd cynorthwyol y Gymdeithas Feddygol Sosialaidd, gan wneud cyfraniad mawr i sefydlu’r GIG. Arferai gwrdd yn rheolaidd gyda Clem Attlee a Nye Bevan i roi safbwynt y Gymdeithas Feddygol Sosialaidd ar beth y dylai’r gwasanaeth newydd fod. Ar ôl ymddeol o  Gymdeithas Glerigol y Gwasanaeth Iechyd, dychwelodd i Gymru i fyw yn Llanfyllin, Powys, nes y cafodd ei gorfodi gan dostrwydd i ddychwelyd i Llundain lle bu farw yn 1999. Cafodd ei goroesi gan ei gŵr a 4 plentyn.

Dadorchuddiwyd y Plac Porffor ddydd Gwener 13 Mai 2022 ym mhresenoldeb teulu Thora, Julie Morgan AS a Meryl James o’r Pwyllgor Placiau Porffor.

Mural5