Gallwch ailgylchu eich gwastraff gwyrdd bob bythefnos o ddydd Llun 30 Mawrth 2026 i ddydd Gwener 6 Tachwedd 2026.
Dylid nodi nad oes angen i chi bellach gofrestru i ddefnyddio’r gwasanaeth casglu am ddim.
Gofynnir i chi roi eich sachau gwyrdd mas i gael eu casglu cyn 7am ar eich diwrnod casglu, yn eich man casglu ailgylchu.
Oherwydd y cyfyngiadau cyllidebol sylweddol presennol, mae'r Cyngor wedi cymeradwyo tâl o £2.20 am bob sach gwastraff gwyrdd.
Os ydych angen sachau gwyrdd, fydd ar gael i’w harchebu o ddydd Llun 23 Mawrth, ewch i Fy Ngwasanaethau.
Cliciwch yma ar gyfer Cwestiynau Cyffredin ar brynu sachau gwastraff gwyrdd.
Dim ond sachau gwyrdd a ddarperir gan y cyngor y dylech eu defnyddio i gyflwyno eich gwastraff gwyrdd. Ni chaiff unrhyw wastraff gwyrdd a roddir mewn unrhyw ddaliedyddion eraill, yn cynnwys sachau hesian ailgylchu glas, eu casglu. Nid ydym chwaith yn medru gwagu “bagiau tunnell� wedi eu llenwi gyda gwastraff gwyrdd.
NODWCH OS GWELWCH YN DDA – Nid ydym bellach yn darparu gwasanaeth casglu gwyrdd yn ystod y gaeaf, gyda CHASGLIADAU BOB BYTHEFNOS YN DOD I BEN DDYDD GWENER 6 TACHWEDD 2026
Caiff dyddiadau casglu y flwyddyn nesaf eu cadarnhau yn gynnar yn 2027.
Yn ystod y cyfnod pan nad yw’r Cyngor yn darparu casgliadau gwastraff gwyrdd, gallwch fynd â’r gwastraff hwn i’r Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu Cartrefi (HWRC) yn New Vale, Glynebwy a Roseheyworth, Abertyleri. I gael mwy o wybodaeth am ganolfannau HWRC yr Awdurdod, defnyddiwch y ddolen isod os gwelwch yn dda:
Casgliadau
Casgliadau Wythnos 1
Bydd casgliadau bob bythefnos yn dechrau yn yr wythnos yn cychwyn ddydd Llun 30 Mawrth 2026 ar gyfer yr ardaloedd isod:
|
DYDDIAU LLUN Mawrth: 30 Ebrill: 13/27
|
Pochin, Tredegar |
|
DYDDIAU MAWRTH Mawrth: 31 Ebrill: 14/28 |
• Troedrhiwgwair, Tredegar |
|
DYDDIAU MERCHER Ebrill: 1/15/29 |
• Rasa, Glynebwy |
|
DYDDIAU IAU Ebrill: 2/16/30 |
• Glyncoed (Rhan), Glynebwy |
|
DYDDIAU GWENER Ebrill: 3/17 |
• Rhiw Beaufort, Glynebwy |
Casgliadau Wythnos 2
Bydd casgliadau bob bythefnos yn dechrau yn yr wythnos yn cychwyn ddydd Gwener 6 Tachwedd 2026 ar gyfer yr ardaloedd isod:
|
DYDDIAU LLUN Ebrill: 6/20 Tachwedd: 2 |
• Brynmawr |
|
DYDDIAU MAWRTH Ebrill: 7/21 Tachwedd:3 |
• Nantyglo |
|
DYDDIAU MERCHER Ebrill: 8/22 Tachwedd: 4 |
• Winchestown, Nantyglo |
|
DYDDIAU IAU Ebrill: 9/23 Tachwedd: 5 |
• Roseheyworth, Abertyleri |
|
DYDDIAU GWENER Ebrill: 10/24 Tachwedd: 6 |
• Aber-bîg, Abertillery |
Cyn i chi ddechrau
Byddwch angen eich enw defnyddiwr a chyfrinair Fy Ngwasanaethau neu greu cyfrif drwy glicio ar y sgrîn mewngofnodi.
I wneud cais am sachau gwastraff gwyrdd, cwblhewch y .
Defnyddiwch borwr tebyg i Chrome, Edge neu Safariii gael mynediad i Fy Ngwasanaethau. Ni fydd yn gweithio yn Internet Explorer.
Os ydych angen help
Os oes gennych unrhyw sylwadau ar gasgliadau gwastraff gwyrdd, anfonwch e-bost at info@blaenau-gwent.gov.uk